Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y nofel Gymraeg fwyaf erioed yn cael ei ailargraffu

Yn fwy na 500 tudalen a bron i chwarter miliwn o eiriau, mae’r nofel Gymraeg fwyaf erioed – epig uchelgeisiol Jerry Hunter am hanes Cymry America – Ynys Fadog, yn cael ei hail-argraffu. 

Meddai’r awdur arobryn Jerry Hunter:
“Mae’r ail-argraffiad yn newyddion gwych, ac yn ddiddorol hefyd. Mae’n awgrymu nad yw darllenwyr Cymraeg yn ddiog o bell ffordd a’u bod yn croesawu her a rhywbeth swmpus i’w ddarllen.”

Wedi’i disgrifio fel “y War and Peace Cymraeg” gan yr adolygydd Bethan Mair, gwnaeth nifer o bobl gymryd mantais ar y cyfnodau clo diweddar i droi at y nofel swmpus a’i darllen neu ei hail-ddarllen. Daeth y cyfnod yma â mwy o glod i’r nofel a fuodd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2019 (gan golli allan i Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros).

Mae’r epig ddarllenadwy yn darlunio hynt cymuned Gymreig yn America o 1818 i 1937 – cyfnod eithriadol o gyffrous yn hanes y wlad. Mae’r stori yn cael ei hadrodd drwy fywyd Sara Jones a’i theulu, a’u hymgais am fywyd gwell ar lan yr Ohio.

Meddai Jerry Hunter: “Roedd y stori wedi bod yn fy mhen ers rhyw ugain mlynedd, ac roeddwn wedi gwneud llawer o ymchwil yn y maes. Mae cymaint o hanes Cymry America ar flaenau ‘mysedd, ac roedd yn wych cael defnyddio ffuglen i drin y pwnc.”

Mae Jerry Hunter wedi ysgrifennu sawl nofel yn pontio Cymru ac America, gan gynnwys Y Fro Dywyll a Safana a gyhoeddwyd llynedd.

Disgrifiwyd Ynys Fadog gan yr awdur a’r newyddiadurwr Jon Gower, fel “epig o nofel”, gan ychwanegu: "Dyma artist yn dewis cynfas fawr a'i llenwi gyda themâu bywyd - cariad, rhyfel, heddwch, ffydd - ynghyd â chast prysur o gymeriadau byw. Afon o stori sy'n llifo fel bywyd ei hun."