Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y LLYFR GWREIDDIOL CYNTAF CYMRAEG I GYFLWYNO MABWYSIADU I BLANT

Mae’r awdures Eurgain Haf wedi ysgrifennu llyfr i blant dan 7 sydd yn cyflwyno’r syniad o fabwysiadu - y llyfr gwreiddiol cyntaf yn y Gymraeg i wneud hyn. Mae Y Boced Wag yn stori annwyl sy’n dilyn Cadi'r cangarŵ wrth iddi geisio dod o hyd i hapusrwydd, a llenwi ei phoced wag. 

 

Cyhoeddir y llyfr i gyd-fynd ag Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol a gynhelir yn flynyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r angen am gartrefi i blant a phobl ifanc. Eleni cynhelir yr Wythnos rhwng 14 a 20 Hydref.

 

Mae’n bwnc agos at galon Eurgain, gan ei bod hi wedi mabwysiadu plentyn. Nod y llyfr yw ceisio helpu rhieni eraill i egluro'r broses o fabwysiadu i’w plant, pe baen nhw’n dymuno hynny:

 

“Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr o gymorth i rieni sydd wedi mabwysiadu, i’w helpu i esgor ar y drafodaeth bwysig ond anodd ac emosiynol honno gyda’u plant, ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi eu mabwysiadu, a hynny yn eu mamiaith. Bydd y llyfr yn help i rieni gyda phlant sydd yn adnabod teuluoedd wedi’u mabwysiadu hefyd ac yn stori fach hyfryd sy’n sefyll ar ei thread ei hun.”

 

“Fe wnaethon ni fabwysiadu ein mab pan oedd yn fabi ac erbyn hyn mae’n llawn dychymyg ac yn hoff iawn o ddyfeisio straeon. Pan oedd yn y dosbarth Meithrin fe ddaeth gartref o’r ysgol un dydd hefo llun o gangarŵ, un trist iawn yr olwg. Fe’i holais pam fod y cangarŵ yn edrych mor brudd? Ai ateb syml oedd, am fod ei phoced yn wag. Dywedais y bydden ni yn dod o hyd i ffordd i roi gwên ar wyneb y cangarŵ, a gyda’n gilydd rydym wedi dyfeisio stori Y Boced Wag.”

 

Mae Cadi’n mynd ar antur fawr i chwilio am ei hapusrwydd gan ddod ar draws anifeiliaid sydd eisiau ei helpu. Mae’r antur yn aflwyddiannus ond pan mae’n deffro’n bore wedyn mae’n darganfod bod cangarŵ bach wedi cael lloches yn ei phoced a bod ei dymuniad wedi ei wireddu.

 

“Fe ddefnyddiais y stori fel modd o egluro iddo ei fod wedi ei fabwysiadu, a’r bwlch oedd yn ein teulu ni nes iddo fo ddod i lenwi ein haelwyd gyda hapusrwydd. Mae’n stori sy’n rhoi cysur iddo ac mae’r syniad yn un syml a dealladwy y gall plant ei pherchenogi ac uniaethu â hi. Fel y dywed, ‘Fy stori yw hi’.”

 

Mae’r gyfrol yn cynnwys lluniau arbennig Siôn Morris, sydd yn rhoi naws arbennig i’r llyfr. Mae Siôn Morris yn artist, yn ddylunydd profiadol ac yn rhedeg cwmni Cinammon Designs.

 

Magwyd Eurgain Haf ym Mhenisarwaun ond mae erbyn hyn yn byw ym Mhontypridd hefo’i gŵr a’u dau o blant. Mae’n mwynhau rhannu ei hamser rhwng bod yn fam, gweithio i elusen Achub y Plant ac fel awdures straeon i blant ac oedolion.