Y Fedwen ger y lli
Bydd Bedwen Lyfrau 2017 yn cynnwys ymddangosiadau gan 10 o awduron gorau Cymru a 7 o'n prif gyhoeddwyr, gyda sesiynau trafod, lawnsiadau a digwyddiadau amrywiol i oedolion a phlant. Mae'r rhaglen yn cynnwys awduron amlwg, megis Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Haf Llewelyn a Daniel Davies ,yn ogystal ag ymddangosiad gan Seren and Lobs, sêr rhaglen Asra S4C', a Helfa Drysor Saith Selog gwych cwmni Atebol.
"Mae'r Wyl yn un hynod eang eleni ac yn brawf, yn anad dim, o gyfoeth a bywiogrwydd y sector gyhoeddi" yn ol y Trefnydd Elwyn Williams. "Bydd yna sesiwn lawnsio llyfrau sydd a chysylltiadau lleol a lawnsiadau o nofelau newydd i oedolion Cynhelir digwyddiadau i blant ifanc a rhai hyn a byddwn yn dathlu paenblwyddi dau o'n prif gyhoeddwyr, sef Y Lolfa a Cyhoeddiadau'r Gair, sydd yn 25 oed eleni"
"Bydd gwasg Y Lolfa yn dathlu ei 50ed blwyddyn fel cyhoeddwr ac argraffwr, gyda sgwrs a sioe sleidiau yn ystod y dydd, a pharti pen-blwydd gyda'r hwyr. Bydd yno lot o hwyl" meddai.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys dwy seremoni. Bydd Bethan Mair yn cyhoeddi 'Llyfr y Fedwen', sef ei dewis personol hithau o'i hoff lyfr o'r flwyddyn 2016, a bydd y Cwlwm Cyhoeddwyr, trefnwyr y digwydddiad, hefyd yn dyrannu 'Gwobr Cyfraniad Arbennig'. Eleni, dyrenir y wobr i'r Golygydd Alun Jones, fu'n golygu gwaith sawl awdur dros nifer helaeth o flyneddoedd. "Mae'n ddewis poblogaidd ac haeddiannol am waith dygn, trylwyr, egniol a sensitif dros gyfnod maith" medd y Cwlwm.
Cynhelir y Fedwen Lyfrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 10.00yb a 4.30yp ar ddydd Sadwrn 20 Mai, gyda phob digwyddiad yn rhad ac am ddim. Bydd siopau llyfrau Inc a Siop Y Pethe yn bresennol gyda stondinau.
Mae rhaglen y dydd hefyd yn cynnwys Ffair Hen Lyfrau Cymdeithas Bob Owen / Y Casglwr yng Nghanolfan Y Morlan, i'w gynnal gydol y dydd. Cynhelir parti pen-blwydd YLolfa yng ngwesty'r Marine o 8yh ymlaen.
Mae rhaglen i'w gweld ar y wefan bedwen.com