Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y ddafad ddu yn San Steffan: Hanes diweddar y blaid Lafur drwy lygaid Cardi

Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf byd gwleidyddiaeth, a’r Cymro a fu’n gweithio San Steffan am y cyfnod hiraf erioed – yr Arglwydd John Morris.

Yn y gyfrol, Cardi yn y Cabinet, mae John Morris yn cyfeirio at ei berthynas gydag arweinwyr y Blaid Lafur, o Hugh Gaitskell i Jeremy Corbyn, gan nodi:

Dros oes hir, ar ôl cychwyn yn ieuanc, deuthum ar draws pob un o brif wleidyddwyr fy mhlaid ac eraill a oedd yn flaenoriaid yn ein galwedigaeth. Yn naturiol roedd rhai yn fwy effeithiol na’r lleill.”

Trwy’i eiriau a’i brofiadau, cawn hanes y Blaid Lafur drwy lygaid Cymro. Mae’n nodi bod “heddwch yn teyrnasu[‘r] blaid pan gyrhaeddais Dŷ’r Cyffredin” er newidiodd hyn yn ystod ei amser yn San Steffan. Roedd y rhwyg rhwng Gaitskell ac Aneurin Bevan wedi darfod a slogan y Blaid Lafur ar y pryd oedd ‘Law not war’.

Fe ddaeth John Morris yn Aelod Seneddol dros Aberafan yn 1959, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001. Fel aelod o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi bu’n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur. Bu’n dal rhai o’r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a’r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinidogol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, pan cafodd y gyfrifoldeb, fel y Twrnai Cyffredinol, o greu seiliau cyfreithiol i ddefnyddio arfau yn Kosovo.

Roedd datganoli yn bwnc llosg iddo, a bu hynny’n waith oes iddo. Fe weithiodd i gyfrannu at greu pensaernïaeth datganoli rhwng 1953 a 1998, ac mae’n nodi bod colli’r bleidlais yn 1979 yn siom enfawr iddo, ac un a gymerodd blynyddoedd mawr i ddod dros. Meddai:

“Mae digon wedi ei ysgrifennu ar ddatganoli, a minnau yn arbennig yn fy hunangofiant Fifty years in Politics and the Law ac nid wyf am aildwymo’r cawl. Y neges bwysig yw mai creadigaeth y Blaid Lafur yw datganoli.”

Yn y gyfrol hefyd, mae’r Arglwydd Morris yn sôn am berthynas Cymru a’r Alban yn ystod ei amser fel Ysgrifennydd Cymru, ac yn holi beth yw gwerth Ysgrifennydd Cymru heddiw. Dyrchafwyd ef i’r swydd yn 1974, a Willie Ross A.S. oedd Ysgrifennydd i’r Alban. A ninnau mewn cyfnod cythryblus iawn i’r Deyrnas Unedig, dywed John Morris:

 “Rwy’n siãr fod y gredo y byddai Llafur yn cydweithio â’r S.N.P. wedi gwneud drwg i ymgyrch Llafur yn etholiad 2015, ac nid yw geiriau croch digyfaddawd Nicola Sturgeon yn apelio at bawb.”

Yn y gyfrol hefyd ceir disgrifiadau difyr o fywyd am hanes ei deulu yng nghefn gwlad Ceredigion, yn un o saith o blant yn ardal Penllwyn ac Aberystwyth. Mae’n sôn am y bobl sy’n agos at ei galon, a ddylanwadodd ar ei fywyd – ei fam a’i lystad, ei fam-gu ag oedd yn weithgar iawn yn ei chymuned, yn codi arian i roddi addysg i ferched i ddysgu nyrsio a’i dad-cu a oedd yn hen löwr.

 Am ei waith, a’i fywyd yn San Steffan, meddai John Morris:

 “Gobeithiaf i mi sicrhau’r ffordd i’m cenedl i gael mwy o awdurdod i lywio ei dyfodol ei hun. Breuddwyd i eraill fu hyn yn y gorffennol. I mi dowd i ben y dalar ar ôl sicrhau’r nod a gychwynnwyd yn 1953, ac a wireddwyd yn 1999 pan sefydlwyd y Cynulliad.”