Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y 'BREXIT BLUES' YN YSBRYDOLI THRILLER ARSWYDUS A THYWYLL

Mae un o awduron amlycaf Cymru wedi ysgrifennu nofel sy'n dra wahanol i'w steil arferol. Mae Jon Gower wedi ysgrifennu nifer fawr o nofelau yn y Gymraeg ac y Saesneg ac wedi ennill Llyfr y Flwyddyn am ei waith llenyddol. Ond yr wythnos hon cyhoeddir ei nofel newydd Y Düwch, sef nofel drosedd dywyll, gan Y Lolfa.


"Ers canlyniad Brexit dwi wedi teimlo bod Cymru wedi fy ngadael i braidd", meddai Jon Gower. "Ac ar ben hynny mae gyda ni Donald Trump yn y Tŷ Gwyn, unben a charlatan a dathliad yn y cnawd o dwptra sy'n llwyddo i ddatgymalu trefn y byd cyfoes. Sgrifennwyd y nofel gyda hyn oll yn y cefndir felly nid yw'r syndod bod y stori yn dywyll ar y naw".


Fe aeth yr awdur ati i weld os allai ysgrifennu nofel drosedd gan iddo fod yn ffan mawr o nofelau tebyg, yn enwedig gan awduron Americanaidd megis James Ellroy a James Lee Burke.


Lleolir y nofel ar 'rust belt' Cymru, sef yr arfordir diwydiannol, ac ôl-ddiwydiannol o Gynffig i Lansamlet, sef y llun ar y clawr. Mae'r stori yn dilyn ymdrechion Ditectif Thomas Thomas a Ditectif Emma Freeman i ddatrys dirgelwch erchyll o brifathro ysgol gynradd sydd wedi'i herwgipio a'i boenydio gan 'Y Bwystfil' seicopath mileinig gyda hanes o ladd.


Mae'r cymeriadau wedi plannu'u hun yn nychymyg Jon Gower, gyda syniadau am ddilyniant ganddo yn barod. "Mae gen i deitl i'r dilyniant, sef Achos Freeman, ble bydd Emma a'i hanes gymhleth yn fwy o ffocws eto. Bydd yn ddiddorol gweld os bydd ail gyfrol, neu gyfres hirach".
Gyda'r genre drosedd yn cyrraedd y frig yn ngwerthiant llyfrau dros Prydain yn 2017, bydd Y Düwch yn gyfle i'r sawl sy'n mwynhau stori drosedd sy'n gwneud y galon curo'n gyflym i gael nofel dda arall yn y Gymraeg.


Gyda sawl llyfr allan eleni, gan nifer o weisg, bydd 2018 yn flwyddyn brysur i Jon Gower.


Mae Jon Gower yn ddramodydd ac awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Enillodd Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Y Storiwr yn 2012. Daw o Lanelli yn wreiddiol ond mae'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach, gyda'i wraig a'i ddwy ferch.