Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Uwch ddylunydd ffasiwn o Gymru sydd yn dylunio i gwmni All Saints yn cyhoeddi llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant.

Mae uwch ddylunydd ffasiwn o Gymru sydd yn dylunio i gwmni rhyngwladol AllSaints wedi cyhoeddi llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant yr wythnos hon.

Daw Felicity Elena Haf o Aberystwyth yn wreiddiol. Ar ôl gadael Aberystwyth a graddio mewn dylunio ffasiwn yn Kingston College, dilynodd Felicity yrfa lwyddiannus mewn ffasiwn cyn cymryd rôl uwch ddylunydd gyda AllSaints, yn eu pencadlys yn Llundain. Mae’n aml yn teithio i lefydd fel India a Hong Kong ac yn dylunio cardiau Nadolig a phen-blwydd. Mae wedi cynllunio darluniau comisiwn i’w rhoi ar grochenwaith a lliain yn arbennig i gwmni Bodlon.

Nawr, yr wythnos hon fe fydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf Cymraeg i blant, Begw Haf, gyda gwasg Y Lolfa ac felly yn ymuno a’r awduron prin hynny sydd wedi ysgrifennu’r testun yn ogystal â gwneud y lluniau megus Morgan Tomos yng nghyfres Alun yr Arth neu Angharad Tomos yng nghyfres Rwdlan.

Llyfr stori hardd i blant 5 i 8 oed, ynghyd â rysait coginio, yw Begw Haf. Mae’r lluniau a’r stori fer ill dau wedi eu creu gan Felicity Haf. Yn y stori, mae Begw Haf wrth ei bodd yn mynd i dŷ Mam-gu Betsi. Mae Begw a Betsi yn pobi cacennau blasus. Ond beth mae’r ddwy yn ei roi yng nghacen Anti Nora?

Yn ôl Felicity, ei phrif amcan wrth gyhoeddi’r llyfr oedd i ysgrifennu llyfr gwreiddiol hardd Cymraeg fyddai’n apelio at blant Cymru.

‘Eisiau i blant Cymru gael llyfr bach hardd a hwyliog yn y Gymraeg oeddwn i,’ meddai Felicity, ‘Dwi wedi bod wrth fy modd yn tynnu lluniau ers bod yn blentyn bach, cyn cof i ddweud y gwir. Roedd clywed, darllen ac adrodd storiau hefyd yn rhan pwysig iawn o fy mhlentyndod. Ac fel Begw Haf, fi yw’r hynaf o chwech o blant!’’

Yn Begw Haf ceir ymdriniaeth ar y berthynas sy’n pontio dwy genhedlaeth a sut mae plant a phobl hŷn yn gallu rhannu’r un diddordebau, a rhannu cyfrinachau. Mae gan Begw berthynas arbennig ganddi gyda’i mam-gu. Mae’r ddwy’n cael lot o hwyl pan mae Begw Haf yn mynd i aros gyda hi.

Mae Felicity yn gobeithio ysgrifennu dilyniant i Begw Haf.

‘Mi faswn i wrth fy modd yn sgwennu antur arall i Begw Haf,’ meddai ‘Dwi hefyd wedi ysgrifennu llyfr am yr enfys ac anifeiliaid hudol sy’n newid lliw – ac mae hwnnw bron â gorffen!’