Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis
Trist oedd clywed am
farwolaeth Hywel Francis yn 74 oed. Ganed yn Onllwyn yn Nyffryn Dulais, yn fab
I Dai Francis, arweinydd chwedlonol streic y glowyr yn y 70au. Hywel Francis
oedd un o sefydlwyr Llyfrgell Glowyr De Cymru a’r Bevan Foundation.. Bu’n
wleidydd yn gwasanaethu Aberafan yn San Steffan hyd at 2015 ac yn Athro
Emeritus a Chynghorydd Strategaeth ar Archifau, Polisi Rhanbarthol ac Ehangu
Mynediad ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai Robat Gruffudd, Y
Lolfa: “Y Lolfa gafodd y fraint o gyhoeddi llyfr olaf Hywel Francis, sef Stories
of Solidarity. Roedd Hywel yn ddyn galluog a boneddigaidd ac yn academydd o
fri ac yn ymgyrchydd dros y glowyr a hawliau’r dosbarth gweithiol.”