Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Triolegau i oedolion ifanc yn ateb y galw am ddeunydd gwreiddiol a ffres

Gyda chonsensws bod diffyg darpariaeth o ran nofelau i oedolion ifanc yn Gymraeg, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi'r olaf yn nhriolegau’r awduron poblogaidd a phrofiadol Bethan Gwanas a Lleucu Roberts.

 

Mae’r ddwy drioleg yn gam tuag at llenwi y “bwlch anferthol a phoenus,” yng ngeiriau Bethan Gwanas. Mae llyfrau cyntaf y triolegau wedi cael ymateb gwych ac yn ateb y galw am ddeunydd gwreiddiol, ffres ac anturus i oedolion ifanc Cymru.

 

Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddwyd Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc gan Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd. Adroddir:

“O wrando ar farn pobl ifanc, daw’n amlwg eu bod yn ysu am nofelau Cymraeg sy’n mynd i’r afael â’u profiadau hwy. Galwant am straeon mwy cymhleth a heriol, nid ar themâu ‘tywyll’ o reidrwydd ond yn llawn egni, hiwmor a dychymyg ac mewn iaith hygyrch.” (t.19)

 

Dyma felly gyflwyno Edenia o Gyfres y Melanai (addas i blant 12+ oed) gan Bethan Gwanas ac Afallon o Gyfres Yma (addas i 14+ oed) gan Lleucu Roberts.

 

“Mae Bethan Gwanas a Lleucu Roberts wedi ysgrifennu dwy drioleg gyfoes, llawn antur sy’n haeddu cael eu clodfori a’u canmol,” meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd yn Y Lolfa.

 

Meddai Bethan Gwanas: “Mae hi wedi bod yn farathon, ond braint oedd cael bod yn ran o brosiect mor gyffrous. Dwi’n falch iawn o’r tair nofel, a gobeithio y bydd y darllenwyr yn mwynhau straeon y cymeriadau gymaint ag y gwnes i fwynhau eu creu. Dwi wir yn mynd i weld eu colli nhw.”

 

Ychwanegodd Lleucu Roberts: “Braint yw cael cyfle i ysgrifennu straeon gwreiddiol yn y Gymraeg ar gyfer darllenwyr ifanc heddiw, a’r her yw gwneud hynny mewn modd sy’n helpu i ennyn cariad gydol oes at ddarllen nofelau Cymraeg.” 

 

Bydd setiau o’r cyfresi’n cael eu creu ac ar werth erbyn diwedd mis Mai 2019.

Ariennir y prosiect gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ac mae panel o athrawon wedi monitro’r broses er mwyn sicrhau apêl ac addasrwydd y cynnwys.