Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Trioleg o nofelau noir yn cyrraedd y diwedd

Wedi pum mlynedd o ysgrifennu mae’r drioleg o nofelau tywyll sy’n cynnwys ‘Y Düwch’ ac ‘Y Dial’ gan yr awdur Jon Gower wedi cyrraedd ‘Y Diwedd.’ Y tro hwn mae’r ditectifs Tom Tom ac Emma Freeman yn ôl, nid yn unig fel dau heddwas ond fel gŵr a gwraig. Ac mae ganddynt waith i’w wneud wrth i lofrudd cudd sgubo’r byw i fyd y meirw. Ond pan mae carcharor dialgar yn camu’n rhydd ar ôl blynyddoedd yn ei gell, daw â pherygl enbyd i’w priodas.

Felly nawr, heb os, dyma ddiwedd y stori, ac unwaith eto mae’r gwaed yn llifo.

Roedd yr ymateb i’r nofelau blaenorol yn bositif iawn, gyda Lyn Ebenezer yn mentro barn taw ‘Yn y Gymraeg, brenin y nofel dywyll yw Jon Gower. Does neb yn fwy graffig ei ddisgrifiadau.’

Nid oedd gorffen y gyfres yn hawdd, yn ôl yr awdur: “Rwy wedi byw da’r ddau gymeriad yma’n ddigon hir i mi ddechrau credu fy mod yn eu gweld nhw ar hyd lle, wrth groesi’r stryd neu’n gwibio heibio tu nôl i ffenest car. Ac heb roi gormod i ffwrdd roedd na deimlad yn fy mol na fyddai’r ddau yn dal yn fyw erbyn y dudalen olaf, a chyda hynny roedd na ddewis ofnadwy i’w wneud.

“Roedd y nofelydd E.M.Forster wedi cynghori ‘Murder your darlings’ ond nid yw’n rhywbeth hawdd i’w wneud, hynny yw os ych chi’n ddigon creulon i wneud hynny yn y lle cyntaf. Erbyn hyn mae Tom Tom ac Emma megis yn rhan o’r teulu.”

Tra’n wynebu dewisiadau trafferthus iawn o ran ffawd y cymeriadau roedd Jon yn ddigon ffodus i gael help tra’n sgrifennu’r nofel:

“Sgrifennwyd rhan helaeth ohoni yn ystod y cyfnodau clo phan gefais y pleser o gysylltu gyda ‘ffan’ o ngwaith, sef Ant Evans, sy’n byw yng Nghaernarfon. Penderfynom y byddai’n hwyl petasawn innau’n danfon darnau o’r gwaith ato fe er mwyn iddo fe awgrymu beth allai ddigwydd nesaf.

“Yn wir aeth y ‘broses’ yma mor dda nes bod cymeriad o’r enw Ant yn camu mewn i’r llyfr erbyn yr ail hanner ac yn wir ma’ gen i hanner meddwl cychwyn cyfres newydd gyda Ant fel prif gymeriad! Roedd yn braf cael mewnbwn rhywun arall oherwydd fel mae pawb yn gwybod, mae’r broses o sgrifennu yn medru bod yn unig iawn, ond hefyd roedd yn dipyn hwyl. Mewn nofel sydd mor dywyll ar adegau roedd yn braf cael chwerthin ambell waith.”

Mae Jon yn gweithio bellach ar nofel bur wahanol i’r Lolfa, sef ei nofel hanesyddol gyntaf a’r gobaith yw y bydd honno’n gweld golau dydd flwyddyn nesaf.

Mae Y Diwedd gan Jon Gower ar gael nawr (Y Lolfa, £8.99)