Teyrnged i un o artistiaid mwyaf nodedig a gwladgarol Cymru - Ogwyn Davies
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Ngheredigion fe gofir am un o artistiaid mwyaf amryddawn Cymru a dreuliodd 60 mlynedd o’i oes yn ardal yr Eisteddfod. Roedd Ogwyn Davies yn dalent unigryw, yn arlunydd a ddarluniodd olygfeydd ysblennydd a lleoliadau nodedig fel Soar y Mynydd. Roed hefyd yn wladgarwr a ddarluniodd yr anthem genedlaethol a’r rhif yn cofnodi mwyafrif datganoli, ac roedd hefyd yn artist arbrofol a weithiodd gyda chyfryngau gwahanol a chrochenwaith yn hwyr yn ei yrfa.
Ond dim ond nawr mewn cyfrol newydd ddwyieithog clawr caled wedi ei ysgrifennu gan yr hanesydd Celf Ceri Thomas a’i chyhoeddi gan Y Lolfa y mae ei gyfraniad yn cael ei wir werthfawrogi.
Meddai Ceri Thomas:
“Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint cael gweithio ar y prosiect i greu y gyfrol hardd, ddadlennol hon am luniau a bywyd yr arloesol, yr angerddol a'r gwladgarol Ogwyn Davies. Mae'r datblygiad yn ei waith dros drigain mlynedd yn drawiadol oherwydd fod ei bwyslais cynnar ar y gweledol yn cael ei gyfoethogi, yn gynyddol, trwy ychwanegu’r geiriol a’r cyffyrddadwy. Ac, wrth i’w gymhlethdod a’i statws artistig dyfu, fe ddaethon nhw i uchafbwynt ffortunus wrth gyflawni datganoli ar gyfer Cymru newydd a mwy hyderus.”
Roedd cael llyfr yn barod ar gyfer yr eisteddfod yn freuddwyd gan blant Ogwyn, Nia Caron a Huw Davies. Meddai Nia: “Mae hi wedi bod yn flynyddoedd o waith i gael pethau at ei gilydd ac i gael y llyfr yma yr ydyn ni mor falch ohono, ac yn ddiolchgar i Ceri Thomas am grynhoi cyfraniad mewn cyfrol mor atyniadol.”
Yn wreiddiol o Drebannws, Cwm Tawe, astudiodd Ogwyn yng Ngholeg Celf Abertawe cyn symud i Dregaron lle ymgartrefodd am drigain mlynedd.
Mae Ceri Thomas yn artist
llawrydd, hanesydd celf, darlithydd hanes celf a churadur orielau o Abertawe.
Cyhoeddodd nifer o weithiau a churadodd arddangosfeydd ar amryw o artistiaid
modern a chyfoes o Gymru, yn amrywio o Joan Baker i Ernest Zobole.
Lansir y gyfrol Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies A Life in Art yn siop Rhiannon yng nghanol Tregaron ar nos Lun 1 Awst am 6.00. Bydd Nia Caron hefyd yn trafod gwaith Ogwyn yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod am 3.00 ar ddydd Mercher 3 Awst.