Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Teithiau Bywyd Dau Gapten – y gwahaniaethau, y gorgyffwrdd, y llwybrau’n croesi...

Stori hanesyddol wir yw James a Nikolai: Teithiau Bywyd Dau Gapten gan Gareth Parry Jones (Y Lolfa).

Daeth y symbyliad i ysgrifennu’r stori wedi i Gareth Parry Jones ddarganfod nifer fawr o greiriau, lluniau, dogfennau a llythyrau yn atig hen gartref ei ddiweddar fam, rhai heb weld golau dydd ers blynyddoedd. Gyda’r deunydd dechreuodd Gareth ddysgu mwy am fywyd ei daid, James Parry.

Meddai’r awdur: ‘O ddarllen ac ymbalfalu, daeth taith bywyd fy nhaid yn gliriach i mi, taith yn aml trwy gyfnodau dyrys iawn. Dyna wnaeth fy ysbrydoli i geisio rhoi’r holl hanes i lawr ar bapur. Teimlais fod hyn bron yn fater o raid, neu buasai’n hawdd i’r cyfan ddiflannu am byth gyda threigl amser. Mae cymaint o hanesion cyffelyb yn bodoli. Mae’n bwysig trysori pob un ac ni ddylid anghofio’r aberth a roddwyd gan y rhai a brofodd erchylltra y ddau Ryfel Byd, boed hynny adref neu ym mhellafoedd byd.’

Y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd yw cefnlen y gyfrol ond yr hyn sy’n sobri’r darllenydd yw stori’r bobl gyffredin gafodd eu dal yn y cyflafanau a dangosir effaith y rhyfeloedd ar gymunedau hyd yn oed ym mhen draw Llŷn.

Mae dau brif gymeriad yn y gyfrol, sef James Parry ac Asmus Nikolai Clausen. Yn y gyfrol, gosodir bywydau James Parry a Clausen yn gyfochrog. Yn achos James, eir o’i fagwraeth yn Aberdaron i’w yrfa ar y môr, wrth iddo deithio i bellteroedd byd yn y Llynged Fasnach. Mewn amser esgynnodd i fod yn gapten. Ganwyd Asmus Nikolai Clausen yn nhref arfordirol Flensburg, yng ngogledd yr Almaen. Dilyn gyrfa ar y môr wnaeth yntau hefyd, ond gyda hyfforddiant ac uchelgeisiau tra gwahanol. Ymunodd â Llynges yr Almaen, ac yna Lluoedd yr U-boats, cyn esgyn i fod yn gomander U-boat. Mewn llawer ystyr roedd cwrs bywyd James a Nikolai yn debyg. Gadawodd y ddau eu haelwydydd a’u teuluoedd am gyfnodau hir, heb wybod beth fyddai eu hynt a’u helynt, a heb sicrwydd y byddent yn gweld eu hanwyliaid fyth wedyn. Gwelodd y ddau erchylltra dau Ryfel Byd. Yn y gyfrol, cawn hanes eu cefndiroedd, eu teuluoedd, a theithiau eu bywyd, nes yn y diwedd i’w llwybrau groesi.

Mae Gareth Parry Jones yn enedigol o Aberdaron, ac yn fab y mans. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog cyn symud i astudio Meddygaeth yng Ngholeg Meddygol Lerpwl. Treuliodd 32 mlynedd fel Meddyg Teulu yng Nghaernarfon cyn ymddeol. Bu’n ymwneud ag addysg feddygol am flynyddoedd. Mae’n gyn-Lywydd y Gymdeithas Feddygol, ac yn aelod o Orsedd y Beirdd. Mae’n briod â Nia, yn dad i Deian ac Iwan, ac yn daid i Efa Glyn a Caio. Dyma’i lyfr cyntaf.

Mae James a Nikolai: Teithiau Bywyd Dau Gapten gan Gareth Parry Jones ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).