Sylfaenydd Y Lolfa yn cyhoeddi dyddiaduron personol
Cyfrol o ddyddiaduron 'ecsentrig a rhy onest' a gadwodd Robat Gruffudd, ers y chwedegau yw Lolian. Mae'n cynnwys cymysgedd o straeon doniol, sylwadau pryfoclyd ac atgofion am helyntion y byd cyhoeddi a chyfarfodydd ag awduron ac eraill yng Nghymru ac mewn bariau ar y cyfandir.
Fel ymgyrchydd iaith o'r dyddiau cynnar, mae yna sôn am helyntion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, Cymuned, Dyfodol i'r Iaith -- ac ymgyrch i wrthod siarad Saesneg. Sonir am brotest Pont Trefechan a'r cais i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.
Yn y dyddiaduron mae ymateb i ddigwyddiadau a darlun 'answyddogol' a gwreiddiol o'r profiad o fyw yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf ynghyd â sylwadau cyffredinol, trwm â'r ysgafn.
Ceir cip hefyd ar ei gefndir Almaenaidd Iddewig a chyfeiriad at erlid y teulu yn yr Almaen, testun llyfr llwyddiannus iawn ei frawd Heini, Yr Erlid, a enillodd Llyfr y Flwyddyn.
'Mae yma straeon doniol am nifer fawr o bobl, a dyna rwy'n ofni: be fyddan nhw'n dweud pan welan nhw eu henwau mewn print? Mae ffurf y dyddiadur yn gofyn am onestrwydd.' meddai Robat, 'Os nad y'ch chi'n onest, beth yw'r pwynt? Ond buasen i'n hoffi petai'n bosib i fi ddianc o'r wlad am fis neu ddau wedi cyhoeddi'r llyfr!'
Ond meddai Robat Gruffudd nad oedd am weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn wreiddiol.
'Dyddiaduron personol yw'r rhain, yr ydw i wedi eu cadw mwyn fy nifyrrwch fy hun.' eglurodd Robat, 'Wnes i ddim bwriadu i neb arall eu gweld nhw. Yn anffodus, ces i bwl o wendid wedi croesi oed yr addewid, ac yn awr mae'n rhaid i fi wynebu'r canlyniadau'.
Cyhoeddir y dyddiaduron cyn hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa flwyddyn nesaf ac mae'r llyfr yn sôn am rai o helyntion y byd cyhoeddi. Ond mae Robat am bwysleisio mai nad hunangofiant a geir yma na hanes y wasg fel y cyfryw.
'Byddwn yn dathlu pen-blwydd Y Lolfa yn y man. Gwyliwch y wasg am fanylion un parti anferth a rhes o ddigwyddiadau eraill!' meddai Robat.
Cynhelir noson i ddathlu lansio'r nos Wener y 25ain o Dachwedd am 8 o'r gloch yn y Llew Du yn Nhalybont. Yn ogystal ag adloniant cerddorol bydd yr academydd Simon Brooks yn holi'r awdur.
'Ond bydda i'n diflannu yn syth wedyn, meddai Robat, – cyn i bobl gael cyfle i ddarllen y llyfr!'