Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Straeon byrion i ddysgwyr gan ddysgwyr

Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr, gyda’r gyfrol yma hefyd wedi cael ei hysgrifennu gan ddysgwyr. Mae Y Daith (Y Lolfa) yn ddathliad o lwyddiant Cyfres Amdani, ei phoblogrwydd ymysg dysgwyr Cymraeg a’r awch am fwy o ddeunydd darllen cyfoes ac addas.

Cafodd y straeon eu creu fel rhan o brosiect gan Lenyddiaeth Cymru i ddenu dysgwyr i ysgrifennu yn ystod cyfnod y clo. Dechreuodd prosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020 gyda’r bwriad o geisio hybu dysgwyr i fod yn greadigol. Mared Lewis oedd yn arwain y prosiect ac mae hi hefyd yn awdur llyfrau dysgwyr profiadol ac yn diwtor yn y maes.

Meddai Mared Lewis:
“Dros gyfnod y Clo Mawr, aeth dychymyg a brwdfrydedd y criw o awduron newydd yma â ni i bedwar ban byd. Yn eu cwmni cawn ein hunain ar lôn anial yn Seland Newydd, mewn clwb nos amheus, yn Fienna yng nghyfnod y llen haearn, a mi gawn hefyd gamu i stori sy’n gwthio waliau realiti – mae hi’n daith a hanner!”

Dros chwe wythnos, daeth deg awdur awyddus at ei gilydd ar lein mewn gweithdai ysgrifennu.

“Roedd hi’n bleser gweithio efo’r criw, trafod syniadau ar gyfer storïau byrion ac i ddarllen y gwaith ro’n nhw’n ei greu. Mae’n wych gweld bod eu straeon bellach yn lyfr y bydd dysgwyr eraill yn gallu ei fwynhau,” meddai Mared.

Mae gan bob stori dro yn ei chynffon. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer dysgwyr Canolradd ac mae yna eirfa ar bob tudalen ac ar ddiwedd y gyfrol.

Mae’r llyfr yn rhan o gyfres Amdani, a lansiwyd yn 2018 er mwyn llenwi bwlch yn y farchnad trwy roi cyfle i ddysgwyr fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes. Mae rhestr o eirfa ar waelod bob tudalen ac mae llyfrau’r gyfres wedi eu graddoli i bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.