Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Storiau newydd gan gantores enwog yn cyflwyno dywediadau Cymraeg i blant

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf y gantores boblogaidd, Gwawr Edwards. Mae Mali: Storïau am gi bach ar y fferm (Y Lolfa) yn cynnwys pedair stori – un stori i bob tymor ac felly cawn ddilyn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol drwy lygaid sbaniel King Charles bach a’i ffrindiau.

 

Mae’r pedair stori fer yn trafod themâu cyfarwydd i blant – diwrnod mabolgampau, cael picnic, gwylio’r tân gwyllt a mynd i sglefrio ar y llyn rhewllyd. Mae’r testun yn cyflwyno plant i ddywediadau a chwpledi Cymraeg fel ‘Ebrill, tywydd teg a ddaw, gydag ambell gawod law.’

 

“Un o’r rhesymau tu ôl i ysgrifennu’r llyfr yma oedd, allan o’r holl lyfrau sydd ar gael i blant, nid oes llawer yn cynnwys dywediadau Cymraeg, yn enwedig rhai cefn gwlad. Mae dysgu’r rhain i blant yn rhywbeth pwysig iawn neu fe fyddant yn cael eu colli am byth,” meddai Gwawr Edwards.

 

Yn wreiddiol, fe ysgrifennodd Gwawr y straeon ar gyfer ei merch fach Nel, sydd nawr yn 4 oed. Mae ganddyn nhw gi sbaniel o’r enw Mali, sydd wedi ysbrydoli’r straeon.

 

“Pan oeddwn i’n fach ac yn aros gyda Mam-gu a Thad-cu, yn hytrach na darllen stori, roeddwn yn gofyn i Mam-gu wneud storis lan am hynt a helynt cŵn a chathod y fferm ym Mhlas y Bryniau ble cefais fy magu. Roeddwn wrth fy modd gyda chlywed y storïau dychmygol ac yn poeni drwy’r amser am stori arall!

Pan ddes i’n fam i Nel, a hithau’n mwynhau storïau gymaint, a dychymyg Mam-gu yn fy nghof, fe ges i’r syniad o wneud rhywbeth tebyg iddi, gyda Mali’r sbaniel bach yn brif gymeriad.”

 

Mae lluniau hyfryd Ali Lodge yn bywiogi’r storïau, ac yn rhoi cymeriad annwyl iawn i Mali’r ci.

 

Bydd hefyd CD yn cyd-fynd â’r llyfr. Meddai Gwawr:

 

“Gan taw cantores ydw i a fy ngwreiddiau yn ddwfn ym myd cerddoriaeth, meddyliais y buasai’n syniad hyfryd i gyfansoddi caneuon i gyd-fynd â’r storïau a chreu CD i blant wedi’i seilio ar y llyfr.”

 

Cwmni Sain sydd yn cynhyrchu’r CD fydd yn cyd-fynd â’r llyfr, a fydd ar gael ar wahân. Mae’n cynnwys deuddeg cân i gyd-fynd â’r straeon. Bydd geiriau 5 o’r caneuon gwreiddiol yn cael eu cynnwys yn y llyfr.

 

“Dwi’n gyffrous iawn am y prosiect yma! Dwi erioed wedi ‘creu’ rhywbeth fel hyn o’r blaen, felly mae’n deimlad hyfryd gallu dangos i Nel, ac Ynyr pan fydd e’n hŷn, beth fues i’n gwneud yn ystod fy nghyfnod mamolaeth!”