Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Stori sy'n plethu dirgelwch gyda'r argyfwng hinsawdd wedi'i leoli yn ardal Eisteddfod 2022

Gyda miloedd o eisteddfodwyr yn heidio i ardal Tregaron ddechrau mis Awst eleni bydd cyfle i bobl gerdded llwybrau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, lleoliad stori ddirgelwch newydd sbon gan Meleri Wyn James. Mae Cors Caron wedi ei hysbrydoli gan y gors hudol yn Nhregaron ac wedi’i hanelu at yr arddegau cynnar. 

Meddai Meleri Wyn James:
“Fe ges i gyfle i wneud gwaith am Gors Caron flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, wnes i fwynhau darllen ac ymweld a dod i nabod y lle – y bywyd gwyllt a’r pethau sy’n ei wneud yn lle mor arbennig. Ynghyd â bod yn stori ddirgelwch am ddiflaniad merch ifanc o’r enw Caron, mae’r nofel hefyd yn stori am natur a’r newid yn ein hagwedd ni at y gors ac at fyd natur yn gyffredinol. Mae’r argyfwng hinsawdd wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Ro’n i’n ffodus wrth sgrifennu’r nofel hon ’mod i’n fam i ddwy ferch yn eu harddegau, ac felly ro’n i’n teimlo’n gyfforddus ym myd Caron, ac wrth ddod o hyd i’w llais hi a’i ffrindiau.”

Mae’r nofel wedi cael canmoliaeth gan yr awdures Caryl Lewis:
“Lleoliad godidog. Rhamant. Hud a lledrith. Hanes lleol ac arwres gref sy’n esblygu o flaen ein llygaid. Beth arall y’ch chi eisiau?! Chwip o nofel sy’n bachu o’r frawddeg gyntaf! Darllenwch, da chi!”

Mae clawr hyfryd wedi’i ddylunio gan yr artist Charlotte Baxter. Mae Charlotte o ardal Tregaron yn wreiddiol, ac yn cofio cerdded i’r ysgol ar hyd Cors Caron.

Meddai Meleri Wyn James:
“Mae Charlotte wedi dal naws Cors Caron i’r dim – y lliwiau, awyrgylch a’r bywyd gwyllt. Dyw’r gair Saesneg ‘bog’ ddim yn gwneud cyfiawnhad â phrydferthwch y lle.”