Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Stori Iolo Morganwg yn parhau i danio dychymyg

Mae athro, awdur ac actor a symudodd i Fro Morgannwg wedi ei ysbrydoli gymaint gan hanes Iolo Morgannwg, ysgrifenodd nofel amdano.

Symudodd Gareth Thomas i Fro Morgannwg chwe blynedd yn ôl wedi gyrfa yn Lloegr fel actor, athro a chyfarwyddwyr. Prynodd a’i wraig ag ef hen dŷ ym mhentref hanesyddol Sant Hilari, milltir a hanner tu allan i’r Bontfaen a llai na filltir o ble cynhaliwyd yr orsedd gyntaf yng Nghymru gan Iolo Morganwg.

Roedd Gareth yn ymwybodol o Iolo Morganwg ond heb wybod yn iawn ei stori na’i arwyddocâd. Cafodd ei ddychymyg ei danio gan y sylw a gafodd yr ‘Hen Iolo’ yn Eisteddfod Llandŵ a dechreuodd ymweld â lleoliadau yn y Fro sydd yn gysylltiedig gyda’r bardd megis ei gofeb yn Nhrefflemin, y Piler Samson yn Llanilltud Fawr, tafarn The Bear yn y Bontfaen ble berfformiodd ei farddonaieth, ac Eglwys Santes Fair ble priododd ef a Peggy. Mae enghreifftiau o’i waith fel saer maen i’w gweld ledled y Sir hefyd.

‘Y mwyaf dysgais amdano, y mwyaf ro’n i’ rhyfeddu at ei stori’ meddai Gareth Thomas, ‘Dyma stori sydd yn mynnu cael ei hadrodd.’

Ond profodd stori Iolo yn destun enigma i’r awdur. Roedd hollt barn ymhlith ei ffrindiau gyda rhai yn edmygu Iolo fel arwr a ffurfiodd hunaniaeth Cymreig ond eraill yn ei ddifrïo fel twyllwr a chastiwr. Wedi darllen gwaith Gwyneth Lewis, Geraint Jenkins a Mary-Ann Constantine daeth Gareth i’r casgliad mai nid dim ond stori oedd yma ond neges gyda arwyddocâd cyfoes i’r genedl Gymreig.

Ei nofel newydd, Myfi, Iolo a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa, yw’r canlyniad.

Dyma nofel hanesyddol yn dilyn ôl troed Iolo Morganwg. Wedi ei gosod ar ddiwedd yr 18fed ganrif, dilynwn Iolo fel dyn ifanc gyda doniau aruthrol ac egni di-ben-draw sy’n feddw ar eiriau, yn llawn dicter dros anghyfiawnder ac yn ymrwymedig i’r achos dros drawsnewid Ewrop.

‘Mae stori Iolo yn llawn pob elfen sydd ei angen mewn nofel hanesyddol; antur, dirgelwch, cariad, gwrthryfel, trais, cyffuriau, angerdd, ysbiwyr a brad.’ meddai Gareth.

Mae’r nofel yn symud o’r Bontfaen i ystafelloedd cyfarch bonheddig Mayfair, o seremonïau Gorseddol ar lethrau anghysbell i fordellos moethus Covent Garden, ac o’i fwthyn yn Nhrefflemin i wrandawiad o flaen y Cyfrin Gyngor yn Stryd Downing.

‘Dyma ddyn oedd yn ysbrydoli cyfeillgarwch ond eto yn troi ffrindiau’n elynion. Dyma ddyn aruthrol o ddawnus ond a fethodd ennill bywoliaeth ddigonol mewn unrhyw faes.’ meddai Gareth, ‘Tybed oedd Iolo yn ymwybodol o dwyllo - neu oedd gweledigaeth fawr yn ei arwain?’

Mae’r nofel eisoes wedi derbyn clod gyda’r athro a’r awdur Dr Mary-Ann Constantine yn ei chanmol fel ‘nofel gyfareddol am berson hynod o ddiddorol.’

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn yr ystafell ddawnsio Sioraidd yn nhafarn The Bear yn y Bontfaen ar nos Iau Tachwedd 23 am 7 o’r gloch.

‘Mae’r lleoliad lansio yn gwbl briodol’ ychwanegodd Gareth, ‘Yn nhafarn The Bear yn y Bontfaen perfformiodd Iolo Morganwg ei farddoniaeth enllibus ac yno y bu’n siarad yn angerddol mewn cyfarfodydd gwleidyddol. Felly does dim lle mwy addas yng Nghymru i lansio’r nofel!’

 Yno rhan o’r lansiad bydd Carys Whelan a’r awdur Gareth Thomas yn sgwrsio am y nofel, gyda perfformiad ohoni gan Eiry Palfrey (Gwaith/Cartref, Dinas) fel ‘Peggy’ a Danny Grehan (Harri Tudur, Casualty) fel Iolo Morganwg.

Ganed Gareth Thomas i rieni o Gwm Rhondda ac astudiodd ddrama yn y Barri a Llundain. Gweithiodd yn Lloegr fel actor, athro a chyfarwyddwr cyn dechrau dysgu’r Gymraeg yn 50 oed. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Welsh Dawn, yn 2014. Mae’n byw yn y Bont-faen.