Protest yn yr Eisteddfod: Cyfrol sy'n dathlu'r frwydr dros ryddid a chydraddoldeb
Ar adeg gythryblus yng ngwleidyddiaeth Cymru mae 11 o ymgyrchwyr wedi dod at ei gilydd i drafod mewn un gyfrol beth sy’n sbarduno protest ac yn ei wneud yn effeithiol.
Gan gyffwrdd ar bopeth o’r frwydr dros y Gymraeg i’r ymgyrch dros annibyniaeth, newid hinsawdd, #MeToo a Mae Bywydau Du yn Cyfri, Mae Dros Ryddid yn trafod rhai o’r pynciau mwyaf amserol sy’n wynebu ein cenedl heddiw.
Golygwyd Dros Ryddid gan Ifan Morgan Jones a Llinos Dafydd, a chyhoeddir mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n ymweld â Thregaron ddechrau mis Awst.
Mae’n cynnwys hanesion 11 o gyfranwyr am eu profiadau o
brotestio, rhai yn unigryw i Gymru a rhai yn bynciau llosg byd-eang, ond gan
edrych ar y cwbl o safbwynt Cymreig.
Ceir cyfraniadau gan Gymry adnabyddus megis Angharad Tomos, Heddyr Gregory a Menna Elfyn, a hefyd enwau newydd am bynciau llosg cyfoes, fel pennod Nia Morais ‘Mwy na sgwariau du’, a Rhys Tudur a’i bennod ‘Mynnu’r Hawl i Fyw Adra’.
“O’r argyfwng marchnad dai i newid hinsawdd i hawliau merched ac LGBTQ+, mae Cymru yn fwrlwm o gyffro a thrafod gwleidyddol ar hyn o bryd,” meddai Llinos Dafydd.
“Gallai’r gyfrol hon ysbrydoli'r rheini sydd am fynnu eu hawliau eu hunain ond hefyd sbarduno trafodaeth am ein dyfodol ni fel cenedl.
“Gobeithio y bydd hefyd yn gofnod diddorol ar gyfer
darllenwyr y dyfodol o adeg hynod ddiddorol yn ein hanes.”