Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Prif lenor yn cyffroi am nofel 'gyffrous, mentrus a chwbl unigryw' i'r arddegau

Disgrifiodd Manon Steffan Ros, awdures Llyfr Glas Nebo, nofel gyntaf Cynan Llwyd, fe un “rymus, ddinesig a wnaeth i mi ddal f’anadl o’r dechrau i’r diwedd.”


Tom yw nofel gyntaf Cynan Llwyd, sy’n gweithio i Gymorth Cristnogol ac sydd wedi cyhoeddi straeon byrion yn y gorffennol. Mae’r nofel yn llenwi bwlch am nofelau cyffrous i’r arddegau, gan ddilyn bachgen 15 oed wrth iddo geisio dygymod â’i fywyd ar ôl gweld digwyddiad erchyll gerllaw’r bloc o fflatiau lle mae’n byw – nofel sydd wedi cael ymateb gwych gan Manon Steffan Ros.

 

Mae Tom yn nofel 128 tudalen, yn gyffrous, yn hawdd i’w darllen ac yn adleisio arddull The Curious Incident of the Dog in the Night-time gan Mark Haddon.

 

Meddai Cynan Llwyd:

 

“Rwyf wedi bod yn datblygu’r nofel yn araf bach ers rhai blynyddoedd bellach. Cyflwynais ychydig o benodau ar gyfer cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mentora Emyr Feddyg tua 2014 ac yna cael cyfle i’w ddatblygu’n llawn a’i ysgrifennu ar gwrs ysgrifennu nofel yn Nhŷ Newydd yn 2018. Fy nghymhelliad oedd ysgrifennu nofel ddinesig i bobl yn eu harddegau gydag adeiladau, pobl a lleoliadau Grangetown, Caerdydd yn gefndir iddi.”

 

Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth gan ei wraig Rachel, athrawes mewn ysgol uwchradd yn y ddinas.

 

“Roedd ei disgyblion yn gofyn iddi am nofelau dinesig Cymraeg, a’r dewis yn siomedig. Felly es ati i ysgrifennu un! Rwy’n teimlo nad oes llawer o nofelau i bobl yn eu harddegau yn y Gymraeg yn darlunio’r Cymry amlddiwylliannol ac urban yr wyf i, a llawer o bobl yn eu harddegau sy’n medru’r Gymraeg, yn byw ynddi. Am wn i, yn hynny o beth, mae’r nofel yn unigryw,” meddai Cynan, cyn ychwanegu:

 

“Mae’n anhygoel cael gwireddu breuddwyd. Mae gen i lawer o syniadau eraill yn fy mhen, ond mae angen eu rhoi lawr ar bapur!”