Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

O’r Da i’r Direidus – Hunangofiant Aled Hall

Mae’r tenor Aled Hall wedi teithio’r byd yn canu opera ar lwyfannau byd-enwog. Yn ei hunangofiant O’r Da i’r Direidus a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, cawn weld sut mae cymeriadau ei filltir sgwâr wedi ei ysbrydoli er pan oedd yn ifanc, ac wedi arwain at ei lwyddiant rhyngwladol:

“Dwi wedi bod yn ffodus i ganu opera ymhob cwr o’r byd, ond sdim ots ble ydw i na pha gymeriad dwi’n chwarae, pan dwi’n darllen y sgript dwi’n mynd syth ’nôl at bobol Dolgran a Phencader – nhw sydd wrth wraidd pob un cymeriad. Ma’r bois lleol wedi dod ’da fi ac wedi ymddangos ar lwyfannau opera enwog dros y byd, a hynny heb adel gytre!”

Alun Gibbard fu’n cydweithio gydag Aled wrth ysgrifennu’r gyfrol hwyliog hon sy’n mynd â’r darllenydd ar siwrne gyffrous. Gan ddechrau gyda’r fagwraeth wledig ar y fferm deuluol ym mhentref Dolgran, mae’n symud i’r cyfnod pan oedd yn ‘Head Boy’ cyntaf Ysgol Dyffryn Teifi ac i’r amser, yn y Coleg yn Llundain, pan fu raid iddo newid ei enw oherwydd rhyw Aled Jones arall o Gymru! Ymlaen â ni wedyn i bedwar ban byd wrth i ni ddilyn ei yrfa lwyddiannus a’i fywyd ’nôl adref yn Sir Gâr.

Daw’n amlwg o’r cychwyn mai ei deulu yw’r peth pwysicaf ym mywyd Aled. Cawn fwynhau sawl stori anturus yng nghwmni ei wraig Natalie, ei efeilliaid Elen a Dan – oedd yn ‘Rhodd gan Dduw’ yn ôl Aled – heb anghofio’r ‘ffowls’ a Twm y ci a ddaeth yn aelodau pwysig o’r teulu yn ystod y cyfnod clo.

Mae Aled wedi canu droeon yn Neuadd Albert a Covent Garden, a chafodd lwyddiant mawr fel aelod o driawd Y Tri Tenor. Yn ogystal â mynd gefn llwyfan yn ystod rhai o’i berfformiadau enwocaf, cawn fwynhau nifer o ddigwyddiadau hollol wahanol hefyd. Fe arweiniodd berfformiad mewn ffatri foto-beics yng Ngwlad Belg, teithiodd y byd gyda’r Grand Prix, a bu’n canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ mewn gornest reslo swmo yn Siapan! Fe ffurfiodd ddeuawd tebyg i ‘Ryan a Ronnie’ gyda Rob Nicholls yn y Coleg yn Aberystwyth, a chanu mewn tai bonedd i Boris Johnson a’i debyg!

“Triwch beidio gwitho ’da Aled Hall yw cyngor rhai sydd wedi gwitho ’da fi lot, neu – os ydych chi yn gwitho ’da fe – pidwch byth ag edrych i fyw ei lyged e!”

Does dim dwywaith bod direidi’n rhan annatod o gymeriad Aled Hall, ac mae digon o hwnnw rhwng y cloriau hyn. Mae un stori ddoniol amdano’n esgus ei fod yn perthyn i’r pêl-droediwr David Beckham, a sawl stori amdano’n chwarae triciau ar ei gyd-berfformwyr. Wrth brynu cartref yn Sain Ffagan pan oedd Natalie’n feichiog, fe wnaeth Aled annog ei wraig i esgus ei bod hi ar fin rhoi genedigaeth er mwyn arbed arian: “Llwyddes i ga’l £20,000 bant ar brish y tŷ! Typical West Walian Farmer!”

Mae doniau Aled yn ymestyn y tu hwnt i’r canu a’r drygioni. Fe gynlluniodd ei gartref ei hun ac mae ’na gysylltiad teuluol gyda Frank Lloyd Wright, un o’r penseiri mwyaf dylanwadol yn y byd. Fe fu ei ddawn fel ffotograffydd yn help mawr iddo yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â’i ddiddordeb mewn barddoniaeth a cherbydau cyflym o bob math.

Er yr holl lwyddiant, y chwerthin a’r doniau di-ri, ni fu stori Aled yn fêl i gyd. Mae wedi wynebu sawl her bersonol, gan gynnnwys heriau teuluol a chyfnod pan gollodd ei lais a arweiniodd at newid yn ei ffordd o fyw: “Bues i heb lais am ddeg dwrnod. Dyma gyfnod gwaetha fy mywyd. Ro’n i’n gweld fy ngyrfa’n diflannu o fla’n fy llyged.”

Yn 54 oed, mae’r crwt o Ddolgran wedi cyflawni gymaint ar hyd y blynydde, ac mae’r profiad o baratoi’r hunangofiant wedi dysgu llawer iddo am yr hyn sy’n bwysig:

“Fi wedi dysgu gyment am yr hyn fi wedi neud, a gyment sydd ’da fi yn fy mywyd. Ma’r diolch i hynny i’r rhyddid roiodd Mam a Dad i fi, heb unrhyw bwyse i redeg y ffarm. Ma gweud y stori ’ma wedi bod fel therapi – ac yn lot rhatach na thalu am therapi proffesiynol ’fyd!”

- Heulwen Davies, Llais Cymru

Mae O'r Da i'r Direidus gan Aled Hall ar werth nawr ar wefan y Lolfa (£9.99)