Nofel newydd yn cael ei chyflwyno i deulu o Ynys Môn am 'ddal eu tir'

Fe gyflwynwyd nofel newydd Cefin Roberts, Os Na Ddôn Nhw... (Y Lolfa) i deulu Caerdegog, Ynys Môn ‘am ddal eu tir’. Meddai Cefin Roberts “Mae’r tylwyth wedi bod yn ffermio yn y rhan yma o Ynys Môn ers canrifoedd maith ac mae unrhyw un sy’n sefyll dros hawliau ac etifeddiaeth yn uchel iawn yn fy llyfrau i.”

 

Caerdegog yw un o’r ffermydd sy’n ffinio â’r Wylfa, y pwerdy niwclear a adeiladwyd dros 50 o flynyddoedd yn ôl. Fe wrthododd y teulu Jones werthu 65 acer o dir y fferm i Horizon Ltd er mwyn datblygu’r Wylfa Newydd.

 

Meddai’r awdur: “Fe allech gymharu’r hyn a ddigwyddodd yn ardal Cemaes i sawl cymuned Gymreig arall a chwalwyd ac a foddwyd sydd yn dal yn fyw yn ein cof fel cenedl. Ond tawel iawn fu pobl yn eu hymateb i'r chwalu a ddigwyddodd ar Ynys Môn. Mae’r nofel, yn ei ffordd fechan ei hun, yn deyrnged i deulu Caerdegog. Maen nhw wedi bod yn ddewr iawn yn fy marn i.”

 

Ac yntau newydd orffen cyfnod o chwe blynedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, mae cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy yn ystyried cyhoeddi ei drydedd nofel fel diweddglo perffaith i’w ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol. Dathlodd ei ben-blwydd yn 65 oed y llynedd ond mae’n dal i ryfeddu bob dydd faint sydd i’w ddysgu am y grefft o ddweud stori.

 

“Ysgrifennu stori yw ’niléit a dwi ddim yn siŵr os yw fy arddull yn ffitio’n daclus i unrhyw niche fel y cyfryw. Er ei bod hi’n nofel ysgafn, mae hi’n ymdrin â themâu digon tywyll hefyd ac yn sicr tydi bywyd ddim yn rhwydd i’r prif gymeriadau,” meddai Cefin Roberts.

 

Fel un a gafodd ei eni a’i fagu ar dyddyn ei hun, mae’n debyg fod yr ysbrydoliaeth wedi deillio o gyfuniad o atgofion plentyn a’r hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad ac mewn cymunedau Cymreig ar hyn o bryd.

 

“Fel y ddwy nofel rwyf eisoes wedi eu cyhoeddi, mae fferm a thyddyn yn rhan bwysig o gefnlen fy ngwaith. Er na wn i'r nesaf peth i ddim am ynni niwclear mae ei gysgod a’i ofn wedi aros hefo fi byth ers imi weld y ffilm The War Game pan oeddwn i'n blentyn. Gwn fod y datblygiadau diweddaraf yma yn bwnc llosg iawn ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac fel Brexit, wedi hollti cymunedau,” meddai Cefin.

 

Dyma nofel gyfoes am Annest a Cemlyn. Wedi iddo fyw yn ddinod mewn tyddyn bychan gyda’i fam yng nghysgod atomfa niwclear am flynyddoedd, mae bywyd Cemlyn Owen ar fin cael ei droi ben i waered gan ferch sydd yn dod i’r ardal yn sgil cwmni ffilmiau. Mae sgriptiau ffilm a naratif nofel yn gwau’n gelfydd i’w gilydd. Mae’n stori lawn hiwmor, ynghyd â themâu dwys, gan awdur sy’n gyfarwydd â chreu cymeriadau byw a gonest.

 

“Dwi’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi dod i afael yn fy llaw bob yn hyn a hyn i gadw cwmni imi ar y daith. Ond mae fy nyled yn fawr i dair yn arbennig: Angharad Price, fy nhiwtor ar y cwrs ym Mhrifysgol Bangor; Meinir Edwards o’r Lolfa; a Rhian, fy ngwraig, am afael yn dynn yn fy llaw pan oeddwn, ar adegau, yn gwangalonni a dechrau amau fy hun.”