Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel gyntaf gan Manon Steffan Ros ers Llyfr Glas Nebo

Enillodd stori Rowena, Siôn a Dwynwen galonnau’r Cymry, yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith yn 2018 a Llyfr y Flwyddyn 2019. Dyma nofel gyntaf Manon Steffan Ros ers y corwynt a’r canmol a ddilynodd cyhoeddi Llyfr Glas Nebo. Mae Llechi yn nofel i oedolion ifanc ac yn stori emosiynol, gignoeth yn llawn dirgel sy’n mynd tu hwnt i ffug-barchusrwydd ac yn portreadu byd gwyllt, amherffaith pobl ifanc.

Meddai Manon Steffan Ros:

 

Mae Llechi’n nofel galed, gignoeth am y disgwyliadau sydd ar bobol ifanc, ac am yr wyneb ffug yr ydym yn ei ddangos i gymdeithas. Mae cyfuniad o galedi a chariad addfwyn rhwng y cymeriadau, a’r cyfan wedi ei leoli yng nghymuned glos a harddwch tirwedd Bethesda.

Mae’n nofel bersonol iawn i mi, a dwi’n ymwybodol iawn ar ôl gorffen y broses o sgwennu fod y cymeriadau yma i gyd yn fersiynau ohona i, hyd yn oed y bobol ddrwg! Ro’n i eisiau sgwennu am faint o bwysigrwydd mae cymdeithas yn ei roi ar ddelwedd merch, a pha mor niweidiol ydy hynny. Hefyd, yn y nofel hon, mae’r bobol iau yn llawer callach a charedicach na’u rhieni, ac mae hynny’n rywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl yn ddiweddar. Dwi wedi mwynhau sgwennu am Fethesda, gan mai yn fanno es i’r ysgol a dwi’n teimlo cysylltiad cryf iawn efo’r lle.”

 

Ar yr arwyneb, mae Gwenno yn ymddangos yn berffaith, yn glyfar ac yn brydferth. Roedd ganddi’r ddawn o fod yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl.

Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, ac wrth i’r nofel ddatblygu, daw’n amlwg nad oedd hi’n ‘berffaith’ wedi’r cyfan. A does gan y rhieni, yr athrawon nar heddlu unrhyw syniad am sut beth ydy bod yn ifanc heddiw, nac am y byd roedd Gwennon byw ynddo mewn gwirionedd. Cawn wybod yr hanes am lofruddiaeth Gwenno drwy ei chriw triw iawn o ffrindiau, a Shane yn bennaf.

 

Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd y gyfrol:

“Mae’r un angerdd yn Llechi ag oedd yn Llyfr Glas Nebo, a dylai pawb a ddarllenodd nofel arobryn Manon Steffan Ros fwynhau’r nofel hon. Mae cymeriadau cryf yma eto, ac mae’r ymdeimlad o wahanol haenau yng nghymdeithas glòs tre fechan Bethesda yn cael ei bortreadu’n real iawn. Ar ôl y digwyddiad erchyll yn eu cymuned mae yna ddyfalu a phwyntio bys, ac mae nifer o gyfrinachau sinistr, a’r gwirionedd annisgwyl, yn cael ei ddatgelu’n raddol.”