Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel Gymraeg gyntaf gyda menyw draws yn brif gymeriad

Mae’r nofel Gymraeg gyntaf erioed i gael menyw traws rywiol yn brif gymeriad wedi ei chyhoeddi yr wythnos hon.

Yn Am Newid gan Dana Edwards dilynwn y prif gymeriad – Ceri, sydd yn dychwelyd i gartref ei phlentyndod, ond erbyn hyn mae’n berson gwahanol iawn. Mae’n ceisio ymaelodu â Merched y Wawr, ond er ei bod yn ddynes bellach, mae’r ffaith bod rhai yn dal i feddwl amdani fel ‘bachgen’ yn golygu nad yw’n hawdd iddyn nhw ei derbyn hi.

Ond nid Ceri’n unig sydd wedi newid – yn y chwarter canrif ddiwethaf mae cymdeithas bro ei mebyd wedi ei drawsnewid o ran iaith, diwylliant ac agweddau.

‘Roedd gen i ddiddordeb ysgrifennu am destun cyfoes ond sy’n datgelu ymateb oesol i bobl sy’n wahanol, neu ddim yn ffitio i’n cysyniad ni o’r hyn sy’n arferol,’ meddai Dana Edwards.

‘Mae materion yn ymwneud â rhyw a rhywedd yn ymddangos yn y wasg yn ddyddiol bron -- ysgolion sy’n newid eu toiledau i fod yn doiledau deuryw, heddlu sy’n addasu ei gwisg i fod yn neillrywiol, a’r trafod ynglŷn â diddymu’r gofyniad i nodi rhyw yn y cyfrifiad nesaf. Felly ro’n i’n meddwl bod ysgrifennu am hyn nawr yn amserol a pherthnasol.’

Mae’r nofel yn mynd i’r afael â sut mae Ceri’n ymdopi gyda’i newid byd, sut mae ei byd yn ymdopi gyda Ceri, a’r newid a ddaw yn sgil ymgartrefu unwaith eto yng ngorllewin Cymru.

‘Yn y gorffennol bu yna feirniadu bod llyfrau Cymraeg yn henffasiwn, meddai Dana, ‘ond rwy’n gobeithio bod Am Newid, ynghyd â llawer iawn o nofelau Cymraeg erail,l wrth gwrs,yn profi nad yw hynny’n wir bellach.’

Meddai’r awdur Lleucu Roberts, ‘Mae Am Newid yn nofel hynod o ddarllenadwy ac yn sicr mae Dana Edwards yn awdur sy’n gwybod yn iawn sut i saernïo stori a datblygu cymeriadau.’

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ar ddydd Llun 27ain o Dachwedd am 2 o’r gloch ar Stondin Merched y Wawr yn Neuadd Arddangos Clwyd Morgannwg gyda Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr, yn holi Dana am y nofel.

‘Mae’n addas iawn lansio’r nofel ar Stondin Merched y Wawr gan fod y mudiad yn gefnlen i stori Ceri,’ eglurodd Dana, ‘Mae gan Ferched y Wawr, wrth gwrs, enw am fod yn fudiad croesawgar, cynhwysol, ond tybed sut dderbyniad a gaiff Ceri?’

Yn ystod y lansiad bydd Carol Nixon yn sôn ychydig am ei phrofiadau hi o fyw fel menyw traws yng Nghymru a bydd y gantores Siân James yn perfformio ambell i gân sydd yn dathlu gwahaniaethau pobl. Bydd cacen enfys LDHT+ a gwin cynnes yn cloi y parti lansio.

Mae Dana Edwards yn adnabyddus yn ei hardal ac yn gweithio fel ymchwilydd ar raglenni dogfen i Gwmni Unigryw. Am Newid yw ei thrydedd nofel yn dilyn cyhoeddi’r nofel Saesneg The Other Half (Accent Press, 2014) a’r nofel Gymraeg gyntaf Pam? (Y Lolfa, 2016).