Nofel gyda themâu amserol a chyfoes

“Cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol”, dyna eiriau Mererid Hopwood am Wal, nofel i oedolion gan Mari Emlyn a gyhoeddir gan wasg y Lolfa. Mae Wal yn delio â themâu cyfoes ac amserol ac yn gwbl wahanol i unrhyw nofel arall a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nofel amlhaenog, arbrofol yw hi a fydd yn gwthio ffiniau llenyddol a’r hyn a ystyrir i fod yn llyfrau plant a llyfrau oedolion. Disgrifiwyd hi gan Emyr Lewis yn “sinistr o ddiniwed; anghynnes o agos-atoch; arteithiol o ddarllenadwy”.

Mae’r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant ddysgu darllen. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae ffont y geiriau yn mynd yn llai, sef arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn. Yn Wal mae’n arwydd fod y prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani hi ei hun a theflir goleuni ar y tywyllwch a chodir pontydd yn lle waliau. Mae Wal hefyd yn lyfr clawr caled a gwelir geiriau allweddol yn britho gwaelod y ddalen.

“Mae Wal wedi dod yn fwy amserol fyth heddiw wrth i bobl geisio arbed eu hunain yn erbyn y firws Corona. Tybed a ddaw rhyw ddaioni o’r cyfan? Tybed a fydd pobl yn ceisio bod yn fwy cymdogol a helpu rhai sydd yn wirioneddol fregus o fewn ein cymunedau, gan anelu at godi pontydd yn lle codi waliau? Yr hyn sy’n eironig yw nad oes ffiniau na waliau gan y firws!” meddai Mari Emlyn.

Un o’r ffynonellau a ysbrydolodd Mari i lunio’r stori oedd darlith ar ddraenogod yng Ngŵyl Y Gelli. Meddai Mari:

“Byrdwn y ddarlith oedd effaith yr holl ffensys a’r waliau a adeiladwn yn ein gerddi ar allu’r creaduriaid yma i deithio. Canlyniad hynny yw nad ydi’r draenog druan yn gallu paru a chynnal ei deulu. Mae ein dull tiriogaethol ni o fyw yn peryglu ein bywyd gwyllt ac wrth gwrs mae hynny’n ymestyn i beryglu’r ddynoliaeth wrth i ni gau ein hunain i mewn a rhwystro pobl rhag croesi ffiniau. Mae’r hyn sy’n digwydd ar lefel rhyngwladol, ac yn arbennig yr hyn sy’n digwydd ym Mhalestina a wal Trump rhwng ffin Mecsico a’r Unol Daleithiau a Brexit yn gefndir i’r themâu yma.”

Mae prif gymeriad y nofel, Siân, yn awdures ac mae hi wedi bwrw wal a’r geiriau’n pallu dod. Wrth i Siân geisio ysgrifennu, daw toriad i’r trydan yn sgil storm. Yn y tywyllwch, mae’n hel meddyliau am Simon Kaltenbach, ei chymydog, sydd wedi adeiladu wal fawr hyll rhwng y ddau dŷ, ac am gyfnodau di-drydan streic y glowyr pan oedd hi’n ferch fach. Mae hyn yn ei harwain i gofio ei magwrfa a’r waliau fu’n gymaint rhwystr yn ei phlentyndod, yn ogystal â chyfnod y ‘three day week’ yn 1974, pan nad oedd trydan.

Derbyniodd Wal glod mawr gan feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 gydag Aled Islwyn yn ei ddisgrifio fel yr “ymgais fwyaf heriol yn y gystadleuaeth” ac Alun Cob yn ei disgrifio fel “y gyfrol fwyaf beiddgar yn y gystadleuaeth... Mae’r stori’n afaelgar a’r ysgrifennu’n ddoniol a chraff.”