Nofel ddoniol a thorcalonnus, a chipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc

“Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” Dyma eiriau Manon Steffan Ros am nofel gyntaf yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter. Mae tu ôl i’r awyr yn nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.

“Y cymeriadau a ddaeth yn gyntaf ac fe ddatblygodd y stori’n naturiol wrth iddyn nhw esblygu, nes i mi orfod cofnodi eu stori gan fy mod i’n meddwl amdanyn nhw mor aml. Mae cerddoriaeth yn fy ysbrydoli i sgwennu; weithiau mae naws caneuon neu ddarnau penodol o gerddoriaeth yn cyfleu cymeriadau neu olygfeydd,” meddai Megan Hunter.

Mae’r nofel yn delio gyda themâu anodd, a’r iaith yn gref. Mae’r iaith hefyd mewn arddull anffurfiol a llafar iawn i adlewyrchu iaith siarad a thecstio pobl ifanc yng ngogledd Cymru; mae llais un o’r cymeriadau yn llawn byrfoddau tecstio ac yn llifo o’r meddwl, heb ystyried unrhyw atalnodi.

Mae Anest a Deian yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Pan maen nhw’n cwrdd yn yr ysbyty, ac yna yn y Chweched Dosbarth, mae byd y ddau yn newid am byth. Mae eu perthynas yn annwyl, yn heriol, yn emosiynol ac ingol, a’r ddau’n dweud eu hanes yn eu geiriau eu hunain fesul penodau am yn ail. Mae Anest yn dechrau perthynas gyda merch i ffoaduriaid o Fangladesh mae’n cwrdd â hi mewn sesiwn therapi ac mae Deian yn dioddef o pyliau o banig difrifol.

“Mae’r nofel yn delio gyda themâu anodd. Mae angen i ni siarad ag eraill am ein teimladau a sylweddoli nad oes raid i neb ddioddef ar eu pennau eu hunain,” meddai Megan.                                                     

“Dwi meddwl mai gonestrwydd sy’n bwysig wrth drafod iechyd meddwl yn y celfyddydau, ac efallai mai un ffordd o wneud hynny yw trio peidio â chilio rhag ein breuder ni. Mae breuder a chreadigrwydd yn greiddiol i fod yn ddynol ac mae gan bob un ohonom ni ansicrwydd, felly gallwn ddefnyddio dulliau o fynegiant creadigol i normaleiddio’r breuder hwnnw.”