Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel am dref glan môr yn agor trafodaeth am begynnu barn mewn cymdeithas

Mae nofel newydd gan yr awdures Mared Lewis yn mynd i’r afael â phwnc sy’n broblem gynyddol yn y Gymru gyfoes, sef y pegynnu barn mewn cymdeithas. Mae’r nofel Treheli (Y Lolfa) yn olrhain cyfnod mewn tref glan y môr a’i thrigolion ac yn edrych ar ymateb pobl i ddigwyddiad penodol sydd yn effeithio ar bawb yno.

 Stori ddirgelwch sydd wrth wraidd Treheli, ond y ffordd mae pob un yn ymateb i’r dirgelwch yn wahanol sydd o ddiddordeb. Mae'r nofel yn agor ar ganol cyfarfod cyhoeddus yn Nhreheli, cyfarfod sydd wedi ei alw mewn ymateb i'r ffaith fod rhywun yn aflonyddu yn y cysgodion, ac yn creu stŵr yn ddistaw bach o fewn y dref. Wrth i'r trigolion geisio tynnu ynghyd, buan iawn daw rhwygiadau i'r fei, ac i bobol ddechrau pwyntio bys.

 “Mae yna adleisiau o’r hinsawdd gymdeithasol bresennol - y pack mentality,” meddai’r awdures, cyn ychwanegu, “mae’n anodd peidio sylwi ar y newid hinsawdd cymdeithasol a’r gwrthdaro yn dilyn y symudiadau gwleidyddol diweddar. Ymddengys fod yna nifer sy’n teimlo bellach bod yna hawl i leisio barn rhagfarnllyd am leiafrifoedd o bob math. Mae’n amhosib i awyrgylch felly beidio cael effaith ar rywun sy’n sgwennu, ac mae o’n rhywbeth sy’n fy mhryderu’n fawr. Nid rôl awdur neu artist yw pregethu, dim ond agor y drafodaeth.”

 Mae Treheli yn nofel ar ffurf go anarferol gan iddi ddechrau ei thaith fel cyfres o straeon byrion,  ac un cymeriad yn clymu pawb efo’i gilydd. Mae prif gymeriad pob stori yn wahanol, a safbwynt personol y cymeriadau unigol i’r digwyddiadau yn wahanol, ond mae’r un cymeriadau yn ymddangos mewn nifer o’r straeon.

 “Roedd cwlwm un berthynas benodol wedi bod yn fy meddwl ers blynyddoedd, ac wrth i fynd yn ôl at y ddau gymeriad yma, fe dyfodd y gymuned a'r stori o'u cwmpas nhw, rywsut. Mae'r lleoliad yn glir iawn yn fy meddwl, er nad ydy o wedi ei seilio'n llwyr ar un lle penodol, ond yn ffrwyth dychymyg,” meddai Mared Lewis.

 Mae Mared Lewis newydd gwblhau cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dweud i’r cwrs helpu i ddatblygu elfennau gwahanol ei ysgrifennu:

 “Er bod yna elfennau real ac eithaf cignoeth yn y nofel, mae haenen rithiol iddi hefyd ar adegau. Mae hyn yn rhywbeth newydd yn fy ngwaith i, ac rydw i wedi mwynhau gwthio ychydig ar fy ffiniau creadigol. Roedd cael y cyfle i ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn sicr yn brofiad gwerthfawr a thrafod efo tiwtoriaid a rhannu efo'r myfyrwyr creadigol eraill ar y cwrs, yn brofiad amheuthun wna i drysori am byth.”