Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Ni welwyd, ac ni welwn / eto’r fath haf â’r haf hwn’ - Ffans pêl droed yn cofio llwyddiant Cymru yn yr Ewros

Mae geiriau'r Prifardd Aled Gwyn yn crynhoi teimladau ffans pêl-droed Cymru sydd wedi dod ynghyd er mwyn dathlu llwyddiant ein tîm cenedlaethol yn yr Ewros mewn cyhoeddiad newydd a gyhoeddir yr wythnos hon.

Casgliad o ysgrifau i ddathlu a chofnodi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru eleni yw Merci Cymru gyda chyfraniadau gan ffans, sylwebwyr a rhai o enwau mawr y gêm gan gynnwys y sylwebydd Dylan Ebenezer, y cyn-chwaraewr ac academydd Laura McAllister, a'r Prifeirdd Aled Gwyn a Rhys Iorwerth.

Ynddo darlunir bwrlwm yn y gêmau, ar y strydoedd, yn y fanzones, ar y soffa ac yn y tafarndai ac argraffiadau byw o gyfnod arbennig iawn yn hanes pêl-droed Cymru.

Golygwyd y gyfrol gan yr awdur â'r newyddiadurwr Tim Hartley ac mae'n cynnwys cyfraniad gan ei fab ef, Rhys, sydd hefyd yn chwarae i dîm y cefnogwyr.

'Cofnod yw'r llyfr yma. Cofnod o ddigwyddiad na fu rhai ohonom yn ddigon ewn i freuddwydio y gallen ni ei brofi yn ystod ein hoes. Mae yma ddathlu a chyfeillach, atgofion a darogan' meddai Tim Hartley, 'Ond, yn sail i hyn oll y mae'r ffaith hyn: Bu tîm pêl-droed Cymru mewn ffeinals pencampwriaeth ryngwladol.'

'Mae'n diolch i ymdrech carfan o bêl-droedwyr sy'n perthyn i genedl fach – ac yng ngolwg llawer o bobol cyn y gamp hon – cenedl ddi-nod. “'Mond gêm yw hi wedi'r cyfan,” medden nhw – ond na. Maen nhw hefyd yn dweud mai'r siwrne ei hun ac nid y cyrraedd sy'n bwysig yn y bywyd yma. Nid y tro yma, gyfeillion,' ychwanegodd Tim.