Newyddion ffug yn oes Niclas y Glais

Yn oes newyddion ffug gwelwn o lythyrau Niclas y Glais at ei ffrindiau Evan Roberts ac Awena Rhun yn ogystal â’i ysgrifau newyddiadurol fod hyn ddim yn beth newydd, a bod adrodd y newyddion mewn ffordd gamarweiniol yn digwydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn ogystal â’r presennol. Meddai Glen George, nai i Niclas y Glais:

“Gwelwn o’r detholiad fod yr un peth yn wir yn nyddiau Niclas. Dro ar ôl tro gwelwn ef yn taranu yn erbyn y cyfryngau torfol a’r wasg a oedd, i raddau helaeth, yng ngofal nifer fach o berchnogion ariannog.”

 

Yn Nithio Neges Niclas: Casgliad o ysgrifeniadau Niclas y Glais a olygwyd gan yr awdur a chofiannydd Niclas, Hefin Wyn a nai Niclas, Glen George, cawn gip dadlennol ar fywyd Cymru yn yr 20fed ganrif o safbwynt y gwerinwr. Mae’r gyfrol yn rhoi inni ddarlun o feddwl miniog ac o fywyd prysur o deithio, darlithio, pregethu a thynnu dannedd. Nid yw’n dal dim yn ôl wrth ddefnyddio ei linyn mesur gan amlygu pam ei fod yn gymaint o ddraenen yn ystlys y sefydliad.

 

Mae’r gyfrol yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â dadorchuddio cofeb i Niclas y Glais a’r dathliadau fydd yn dilyn ar brynhawn a nos Sadwrn 5ed o Hydref. Meddai Hefin Wyn:

“Pan soniwyd am fynd ati i godi cofeb i Niclas yn ei gynefin uwchben Pentregalar, ger Crymych, yng nghanol y Preselau, gwelsom gyfle. Beth am fynd ati i baratoi cyfrol o ysgrifeniadau Niclas yn erthyglau a llythyron na fu’n bosib cyfeirio atyn nhw ond wrth fynd heibio yn y cofiant a gyhoeddwyd?”

 

Mae’r gyfrol yn dilyn cofiant cyflawn cyntaf Niclas y Glais (T. E. Nicholas, 1879-1971), Ar Drywydd Niclas y Glais, ag ysgrifennwyd gan Hefin Wyn a chyhoeddwyd yn 2017 (Y Lolfa).

 

Meddai Hefin Wyn:

“Hyderwn fod y gyfrol hylaw hon yn atodiad i’r gyfrol hwy ac yn rhoi cip ar feddwl enigmatig a oedd ar dân am newid y byd ac a oedd yn ddraenen yn ystlys y sefydliad crefyddol a llenyddol Cymreig.”

 

Brodor o’r Preselau oedd T. E. Nicholas ond daeth i amlygrwydd yn ystod ei ddeng mlynedd o weinidogaeth ym Mhentre’r Glais, Cwm Tawe. Roedd yn gyfaill i Keir Hardie, a Niclas draddododd ei bregeth angladdol yn Siloam, Aberdâr a chynnig am ei sedd seneddol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i carcharwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thra oedd yn rhannu cell gyda’i fab Islwyn, yng ngharchardai Abertawe a Brixton, aildaniwyd ei yrfa farddonol.

 

Meddai Eirian Wyn Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Codi Cofeb Niclas y Glais:

“Bu’r fagwraeth a gafodd [Niclas] yn y fro yn gyfrwng i fowldio trywydd ei feddwl a’i syniadau a dylanwad y capel ac Anghydffurfiaeth yn drwm iawn arno. Er iddo grwydro yn helaeth a threulio y rhan fwyaf o’i fywyd y tu hwnt i’w gynefin, mawrygodd y fraint mai gwerinwr o’r gymdeithas wledig glòs ar odre’r Preselau ydoedd.”


Cydnabyddir cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyhoeddi’r gyfrol.