Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

MI5, Boris Johnson a'r 'Elfyn Marbles': Hunangofiant 'sy'n siwr o bechu' gan Elfyn Llwyd

Y mis hwn cyhoeddir atgofion y cyn Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd. Bydd Betws a’r Byd, a gyhoeddir gan wasg y Lolfa, yn adrodd ac yn datgelu straeon o du mewn y Blaid a gweinyddiaeth San Steffan. Croniclir y digwyddiadau y bu Elfyn Llwyd yn rhan ohonynt yn ystod bron i chwarter canrif o wasanaeth fel Aelod Seneddol dros bobl Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd.

 

Yn y gyfrol, cofia Elfyn Llwyd y foment a’i sbardunodd i fod yn genedlaetholwr a’i arwain i ennill sedd i Blaid Cymru yn 1992. Sonia am geisio ymgyfarwyddo â holl gonfensiynau San Steffan a’i ymwneud hwyliog a heriol gyda aelodau a gwleidyddion a gweinidogion adnabyddus. Mae’n olrhain ei waith ar wahanol fesurau ac achosion – gwaith ar Fesur Cyfraith Teulu, gwaith ar droseddu a charchardai a’i waith arloesol yn creu deddf yn erbyn stelcian.

 

Ceir hanesion am ymweliadau difyr i bob cwr o’r byd – o Chernobyl i wersylloedd Darfur, o garchardai yn yr Almaen, Denmarc a Norwy i un ymweliad cofiadwy â Irac yn 2002 yng nghwmni Boris Johnson ymysg eraill. Yn rhan o’r daith honno, ymwelodd â phencadlys tanddaearol neu balas tanddaearol Saddam Hussein yn Baghdad ac yn sgil yr ymweliad, ysgrifennodd Boris Johnson erthygl yn y Spectator o dan yr enw ‘The Elfyn Marbles’!

 

Mae’n dadlennu digwyddiadau’r Tŷ gan gynnwys y broses o fynd ag achos uchelgyhuddo yn erbyn y Prif Weinidog, Tony Blair, a’i rôl yn rhan o Ymchwiliad Chilcot. Rhennir stori ryfeddol am dderbyn pecyn o bapurau cyfrinachol o ffynhonnell a oedd yn amlwg iawn yn agos at beirianwaith y Llywodraeth. Roedd y papurau hyn yn nodi y sgwrs a fu rhwng George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau a Tony Blair yn Texas ym Medi 2002 air am air. Cafodd ymweliad gan heddlu’r MET yn fuan wedi derbyn y papurau.

 

Dywedodd Elfyn Llwyd am y broses o sgwennu’r gyfrol: ‘Roedd yn dasg reit swmpus ac mi gymerodd dair wythnos lawn i mi ddarllen trwy'r toreth o ddyddiaduron gwaith a phersonol, wrth gychwyn ar y gwaith ymchwil. Mi fydda i'n pechu ambell un efo’r gyfrol, byddaf, ac mae'n bwysig bod rhywun yn gwneud efallai. Mae ambell i bwyllgor go boeth wedi bod yn Llundain, ambell un wedi tramgwyddo.’

 

Meddai Vaughan Hughes am Betws a’r Byd‘Mae’r gyfrol drwyddi draw yn bortread cyfareddol o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn y byd gwleidyddol... Ei allu i gydweithio, i fod yn gryf a bod yn gyfrwys yn ôl y galw a’i galluogodd i fod yn wleidydd a fedrodd wneud gwahaniaeth ymhell y tu draw i ffiniau ei etholaeth a’i wlad. Ond yma mae ei galon. A chalon fawr, hael ydi hi hefyd.’