Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Malan Wilkinson yn datgelu'r cyfan am ei salwch a'r achubiaeth ger bont y Borth mewn llyfr

Mae stori Malan Wilkinson o Gaernarfon yn gyfarwydd i lawer. Un noson ychydig flynyddoedd yn ôl, pan oedd yn dioddef o iselder eithafol, clywodd lais yn dweud wrthi bod ei hamser yn dod i ben. Yn ei chyfrol Rhyddhau’r Cranc, allan yr wythnos hon gan Y Lolfa, mae Malan yn agor ei chalon ac yn siarad yn ddiflewyn ar dafod am gyfnodau anoddaf ei bywyd a’r brwydrau bu’n ei hymladd.

Ceir profiadau dirdynnol Malan wrth iddi ddadlennu’n gwbl onest ei phrofiadau i mewn ac allan o’r ysbyty, yn mynd o un argyfwng i’r llall. Daeth ei hawr dywyllaf wrth iddi sefyll ar bont Borth yn barod i neidio – ond cafodd ei hachub gan athro mathemateg oedd yn digwydd cerdded ar y bont ar y pryd.

Mae’r teitl Rhyddhau’r Cranc yn symbol o ddigwyddiad ar draeth Dinas Dinlle ar ôl gadael ysbyty am yr ail neu drydedd tro. Gwelodd Malan granc oedd wedi’i grogi gan linell bysgota o amgylch ei gymalau.

“Roedd hyn yn brofiad dychrynllyd i mi ar y pryd. Fe es i i nghar i nôl bag cymorth cyntaf newydd sbon a threulio bron i dri chwarter awr yn datglymu’r llinell bysgota oddi gorff y cranc druan… Mi gerddodd yntau yn syth drwy’r tywod i’r môr mawr. Roeddwn wedi cael dechrau eto, ac mi roedd yr hen granc hefyd. Roedd ei afiaith i gerdded syth yn ôl i’r môr mawr yn hardd. O na allen ni gyd fod fel yr hen granc ar ôl disgyn”.

Mae iechyd meddwl yn bwnc llosg, gyda nifer yn wynebu ystod eang o heriau personol yn ddyddiol. Mae Malan yn ymgyrchydd cryf dros yr achos yma. Y nod o rannu ei stori yw pwysleisio gobaith, gan ddangos sut y llwyddodd i ymdopi, diolch i gymorth a chariad teulu a ffrindiau. Meddai Malan:

“Dwi'n gobeithio y gwnaiff y gwaith apelio at bawb. Does dim rhaid bod â chyflwr iechyd meddwl neu nabod rhywun sydd, gall y gwaith fod yn agoriad llygaid i rywun sydd â ddim profiad. Ond os oes gan bobl, brofiad, gobeithio y gall Rhyddhau'r Cranc eu helpu mewn rhyw ffordd. Mae ‘na dal gamsyniadau ofnadwy am iechyd meddwl a cliches, sy'n wrthgynhyrchiol erbyn hyn. Rwyf wedi ceisio ei dweud hi fel ag yr oedd hi, a dw i'n mawr obeithio y caiff darllenwyr flas ar y gwaith.”

Mae Malan yn hen gyfarwydd ag ysgrifennu, mae'n sgwennu’n gyson ar ei blog poblogaidd, MyBlue.blog, sy’n cofnodi’i brwydr gyda Bipolar Teip Dau a BPD. Mae ganddi hefyd bresenoldeb cryf ar Facebook a Thrydar yn cofnodi ei bywyd bob dydd, ynghyd â’i chariad at ei chi, Wini Lwyd. Mae hefyd wedi ysgrifennu pennod yn y llyfr Gyrru Drwy Storom a gafodd adolygiadau ardderchog am gyfrol oedd yn delio gyda gwahanol fathau o salwch meddwl yn y Gymraeg.

Mae Malan Wilkinson, sy’n un o dripledi, yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i gwmni teledu a radio Chwarel. Mae’n sgwennu’n gyson ar ei blog – MyBlue.org