Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mae Na, Nel! yn ôl! Y tro hwn, i achub y byd!

Mewn gair, llyfr yw hwn ‘am ferch sy’n gwrando dim!’, ac mae Nel yn sicr ddigon o gael dylanwad ar ferched ifainc heddiw. Nid yw hynny’n golygu bod Nel am greu cenhedlaeth o ferched anystywallt! Ond yn hytrach, genhedlaeth o ferched eofn, egnïol, annibynnol a dewr – rhai sydd ddim yn ofni mynd yn groes i’r graen. Meddai Meleri Wyn James, awdur cyfres Na, Nel!:

Does dim disgwyl iddi fod yn “ferch fach dda” a dyw hi ddim y gorau am bob peth. Ydy, mae hi’n gwneud camgymeriadau, ond mae hynny’n wir amdanon ni i gyd. Nel yw Nel a does dim disgwyl iddi fod yn rhywun arall.’

Yn y llyfr hwn, mae tair stori newydd am Nel, gan gynnwys addasiad o’r stori yn sioe’r Pafiliwn eleni. Yma, mae Nel a’i ffrindiau yn canfod eu hunain yn ailgylchu ar faes yr Eisteddfod, ac yn dod o hyd i goeden hynod ac arbennig y mae angen iddyn nhw ei gwarchod. Dyma ran o fwriad yr awdur i lunio straeon sydd yn llawn themâu cyfoes, sy’n annog plant i dalu sylw llawn at fyd natur, a phwysigrwydd ailddefnyddio a gwarchod yn y stori hon.

At hynny, meddai’r awdur bod gan Nel ‘griw o ffrindiau perffaith amherffaith sy’n adlewyrchu’r byd o’n cwmpas.’ Allweddol bwysig iddi o’r dechrau’n deg oedd ysgrifennu straeon cynhwysol, fyddai’n cynnwys plant o bob gallu, plant ag anableddau a phlant o wahanol dras. Mae hyn yn rhan o genhadaeth yr awdur, sef bod plant o bob math yn gallu darllen y straeon a gweld eu hunain o’u mewn.

Bethan Mai yw artist newydd Na, Nel!, ac mae ei harddull chwareus yn llwyddo i ddal Nel a’i ffrindiau yn rhyfeddol, ac fel dywed yr awdur, mae hi’n gwneud hyn mewn modd sy’n rhoi ei stamp ei hun ar y dyluniadau.

Yn ogystal â’r 11 llyfr yng nghyfres boblogaidd Na, Nel! fe ddaeth y cymeriadau yn fyw mewn sioe drawiadol yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Hoffai’r awdur ddiolch i’r bobl ‘dalentog a chreadigol’ a guradodd y perfformiad o Na, Nel!, gan gynnwys y cyfarwyddwr, Siwan Llynor, y cerddor, Rhys Taylor, y band, a’r cast – Nansi Rhys-Adams, Sion Emlyn, Elin Hughes a Meilyr Siôn. Yn ogystal, mae hi’n estyn ei diolch diffuant i Sioned Edwards, yr Eisteddfod a’r Lolfa, heb anghofio’r 1,000 o blant a theuluoedd a oedd yn y gynulleidfa’n curo dwylo a chymeradwyo drwy gydol y perfformiad.