Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

“Mae gobaith yn tyfu pan rwyt ti’n credu yn yr amhosib” – nofel gyntaf Caryl Lewis i’r arddegau cynnar

Ar ôl ennill cytundeb gyda chyhoeddwyr byd-eang Macmillan, mae’r awdures a’r sgriptwraig Caryl Lewis ar fin cyhoeddi ei nofel Hedyn, a hynny yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Dyma nofel gyntaf Caryl ar gyfer plant 9 i 13 oed.

 

Dyma hefyd y nofel gyntaf Gymraeg i gynnwys cymeriad byddar. Derbyniodd Gracie, ffrind gorau Marty (y prif gymeriad) ddiagnosis nam ar ei chlyw pan oedd hi tua thair oed.

 

Meddai Caryl Lewis: “Mae hi’n bwysig iawn i blant o bob cefndir a phlant sy’n wynebu heriau penodol gael gweld eu hunain mewn llyfrau, a bod y gynrychiolaeth honno yn grwn ac yn realistig. Mae Gracie yn rhan annatod o’r stori – yn gymeriad cryf a doniol sydd hefyd yn cael pyliau o ddiffyg hyder, fel pob plentyn arall.”

 

Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli a hefyd yn codi pynciau dwys, mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion.

 

Mae Hedyn yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â Seed, y fersiwn gwreiddiol Saesneg. Meddai Meinir Wyn Edwards, addasydd y nofel:

 

“Mae Hedyn yn antur chwareus, twymgalon ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2/3, sy’n pontio oed cynradd ac uwchradd. Roedd addasu’r nofel o’r Saesneg yn her, yn bleser ac yn fraint, ac ro’n i wrth fy modd yn cydweithio â Caryl a dysgu rhywfaint am y broses olygu mewn gwasg enfawr fel Macmillan. Mae’n stori hudolus gall plant ac oedolion ymgolli’n llwyr ynddi ac mae’n aros yn y cof am amser hir ar ôl gorffen ei darllen.”

 

Mae Hedyn yn mynd â’r darllenwyr i fyd Marty a’i dad-cu. Does ganddyn nhw ddim llawer, ond mae gan ei fam lawer gormod – mae’n cadw popeth, a’r tŷ yn orlawn o annibendod o stwff diangen. Mae Marty yn ceisio edrych ar ei hôl hi, ond mae’n mwynhau dianc o’r tŷ i hafan rhandir Tad-cu.

 

Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn yn anrheg gan ei dad-cu, hedyn hudol. Nid yw Tad-cu wedi bod mor gyffrous ers iddo ddyfeisio’r crafwr pen ôl yn 2000 neu ers iddo feddwl iddo lwyddo i greu tanwydd arbennig o ddail rhiwbob! Mae gan Tad-cu gynllwyn sy’n ymwneud â dymuniadau, byd y dychymyg a thaith anarferol i’r ddau a Gracie.

 

Meddai Caryl Lewis:

“Nofel am bosibilrwydd diddiwedd y byd, a phŵer hudol ac ymarferol y dychymyg yw hon. Rwy’n gobeithio bydd y nofel yn annog plant a’u hatgoffa bod y byd, er gwaethaf digwyddiadau erchyll diweddar, yn lle llawen a rhyfeddol i fyw ynddo.”