Llywydd Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi cyhoeddi llyfr hanes llaethdai Cymry Llundain

Dros y canrifoedd mae’r Cymry wedi bod yn ganolog ac yn rhan bwysig iawn o ddosbarthu llaeth i drigolion dinas Llundain. Fe gyhoeddir llyfr dwyieithog yn nodi hanes y cyfraniad pwysig a wnaed gan Gymry o ardaloedd gwledig, gan gynnwys Ceredigion, ar Lundain a’i boblogaeth a oedd yn tyfu’n gyflym. Ganed yr awdur Megan Hayes i rieni o Sir Aberteifi, Dan ac Eliza Jane Lloyd, ac roedd y ddau ohonynt yn gweithio ym masnach llaeth Llundain.


Mae Y Lôn Laeth i’r Ddinas: Hanes Llaethdai Cymry Llundain yn dechrau gyda dylanwad y porthmyn a deithiodd gyda’u gwartheg o Gymru wledig i Lundain. Mae’r gyfrol yn symud ymlaen i ddisgrifio sefydliad y llaethdai a’r siopau cornel niferus oedd ar agor am oriau hir ac yn dosbarthu llaeth ffres i’r metropolis chwyddiedig.


Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi a’i lansio yn ystod Gŵyl Cobiau a Merlod Cymreig Aberaeron, nawr yn ei 17eg blwyddyn, ac yn ŵyl sydd yn dathlu ac arddangos brîd mwyaf poblogaidd brodorol Cymru a Phrydain. Megan Hayes oedd Llywydd 2018.


“Fel Llywydd, rwyf wrth fy modd i fod yn cefnogi’r dathliadau o gynrychioliad mor iconig o’n treftadaeth leol fel pobl o Geredigion. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r Sioe a gobeithiaf bydd y traddodiad o fagu cobiau yn parhau ac yn ffynnu o fewn y sir,” meddai Megan.


Eleni roedd yna arddangosfa arbennig a phasiant yn anrhydeddu’r berthynas hir dymor rhwng Ceredigion a Llundain. Y brif thema eleni oedd ‘Dod â’r Cobyn Cymreig Adref’ ac fe fydd arddangosfa gan gefnogwyr brwd y Cobyn Cymreig yn Llundain gyda’u cerbydau llaeth hardd sydd wedi’u cynnal a’u cadw mor ofalus ynghyd ag offer masnachol eraill. Roedd yr arddangosfa yn adrodd hanes y miloedd o Gardis a’u cobiau Cymreig a symudodd i Lundain yn yr 1800au, a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yn natblygiad y diwydiant llaeth yn Llundain. Cydnabuwyd y rhan hollbwysig a chwaraeodd yr holl ferlod a’r holl gobiau Cymreig a ddefnyddiwyd fel ceffylau tynnu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r defnydd a wnaed o ferlod mynydd Cymreig yn y pyllau glo.


“Mae’n adeg amserol iawn i ddathlu’r agwedd yma o hanes Cymru-Llundain - anaml mae’r agwedd yma yn cael sylw. Rhwng yr arddangosfa a’r llyfr rwy’n meddwl bydd proffil y cyfraniad a wnaethpwyd yn codi’n sylweddol,” meddai Megan, cyn ychwanegu;

“Nid oedd yn ymddangos bod hanes y fasnach laeth Cymry-Llundain o adeg y porthmyn hyd at y diwrnod presennol yn bodoli - efallai dyma’r cyfle olaf, cyn i bawb oedd yn rhan o’r peth farw.”


“Mae’r storïau i gyd yn diflannu’n gyflym iawn mewn i chwedl, neu’n waeth - diffyg dealltwriaeth. Amcan y gyfrol yw dal stori bywydau - yr anawsterau a’r disgwyliadau - o’r sawl a wnaeth y newid ac i adrodd profiadau’r rhai a adawodd er mwyn chwilio bywyd gwell mewn ‘gwlad bell’.”


Telir pob breindal o werthiant y llyfr i Ambiwlans Awyr Cymru.