Llythyrau dadlennol newydd yn arwain at drysor o gyfrol am Caradog Prichard
Mae llythyrau hynod ddadlennol sydd newydd ddod i’r fei mewn perthynas â’r bardd a’r llenor, Caradog Prichard, wedi arwain at gyfrol newydd amdano. Mae Trysorau Coll Caradog Prichard gan J. Elwyn Hughes yn cynnwys deunydd cwbl newydd sy’n taflu goleuni ar berthynas Caradog gyda nifer o’i gyfeillion a’i deulu.
Roedd yr awdur,
J. Elwyn Hughes, yn gyfaill i Caradog Prichard a’i wraig Mattie, ac yntau’n
hanu, fel Caradog, o Fethesda. Daw’r rhan fwyaf o’r deunydd o
gasgliad newydd o bapurau Caradog Prichard, sydd erbyn hyn wedi’i gyflwyno i’r
Llyfrgell Genedlaethol gan Mari Prichard, ei ferch. Mae’r
casgliad yn cynnwys gohebiaeth rhwng Caradog a nifer o bobl eraill gan gynnwys
aelodau o’i deulu, cyfeillion a chydnabod, yn eu plith rai o enwogion Cymru a
chyn-gariadon. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cofnodion dyddiadur Caradog rhwng
1963 a 1980.
Dywed y Prifardd
Alan Llwyd yn ei Gyflwyniad i’r gyfrol fod y gwaith “yn llawn o drysorau... mae
gennym le i ddiolch bellach fod y trysorau cudd hyn yn drysorau cyhoeddus.”
Mae’r ohebiaeth
fwyaf dadlennol yn ymwneud â mam Caradog Prichard a dreuliodd dros ddeng mlynedd
ar hugain yn yr ysbyty meddwl yn Ninbych. Aethpwyd â hi yno tua diwedd 1923 pan
oedd Caradog yn ei arddegau hwyr a newydd ddechrau ar ei yrfa ym myd papurau newydd,
a bu yno hyd ei marwolaeth, yn 79 oed. Ymhlith y llythyrau, y mae dau a
ysgrifennwyd gan Margaret Jane Pritchard ei hun o’r ysbyty at Caradog sy’n
tanlinellu ei salwch meddyliol.
Mae salwch meddwl ei fam, a’i effaith arni hi ac arno yntau, ei mab, yn ganolog yng ngwaith llenyddol Caradog. Gwelwyd hynny yn ei nofel enwog Un Nos Ola Leuad. Ond roedd yn dechrau ysgrifennu barddoniaeth amdani hyd yn oed cyn iddi fynd i Ddinbych, ac yntau’n newyddiadurwr ifanc. A’i helbulon enbyd hi a ysbrydolodd y tair pryddest a enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol iddo dair gwaith yn olynol.
Trysorau Coll Caradog Prichard yw trydedd gyfrol J. Elwyn Hughes am yr awdur, yn dilyn Byd a Bywyd Caradog Prichard (2005) a Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (2008). Bydd
y gyfrol hon yn sicr o fod o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn
llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg – mae’n gyfraniad pwysig arall gan J. Elwyn
Hughes i’n hymwybyddiaeth a’n hadnabyddiaeth o Caradog Prichard.