Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfrgellydd yn troi ei llaw at ysgrifennu i blant

Mae llyfrgellydd a dreuliodd dros bymtheg mlynedd yn gweithio fel Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc ym Môn a Gwynedd, wedi ysgrifennu ei llyfr cyntaf i blant.

Cyfres o nofelau byr gwreiddiol Cymraeg i blant 5 i 8 oed yw Cyfres Maes y Mes gan Nia Gruffydd. Bydd y ddwy gyntaf yn y gyfres o bedwar, sef Mwyaren a’r Lleidr a Rhoswen a’r Eira, yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa yn yr Hydref.

Mae’r pedair yn canolbwyntio ar stori tylwythen deg wahanol, sy’n byw yng nghoedwig Maes y Mes, ac mae’r pedair yn ffrindiau mawr â’i gilydd.

Mae Nia Gruffydd yn byw yn Dinas, Llanwnda ac mae’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Ngwynedd. Cyn hynny bu’n Llyfrgellydd Plant a Phobl ifanc gyda Llyfrgelloedd Ynys Môn a Gwynedd.

‘Mae gen i barch enfawr at awduron llyfrau plant. Mae’n waith caled, a doeddwn i ddim yn sylweddoli gwaith mor astrus oedd llunio straeon sydd mor syml â’r rhain’ meddai Nia, ‘Bues yn Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc am dros 15 mlynedd, a does dim profiad tebyg i ddarllen darnau cyffrous allan o lyfrau a chael y plant yn gwrando’n astud, ac yn mynd ati i ddarllen y llyfr eu hunain wedyn.’

Daw cymeriadau y gyfres yn fyw diolch i waith yr artist Lisa Fox.

Yn y gyntaf yn y gyfres, Mwyaren a’r Lleidr, mae’r hydref wedi cyrraedd ac mae Mwyaren y dylwythen deg a’i bryd ar wneud teisen fwyar duon. Ond mae cyffro yn y goedwig gan bod Swnyn, tylwythen deg fach, ar goll a does dim golwg ohono yn unman, ac ar ben hynny i gyd, mae lleidr ym Maes y Mes sy’n dwyn y teisennau o sil ffenest Nain Derwen. Gyda chymorth Briallen a Cochyn y wiwer, tybed a fydd Mwyaren yn llwyddo i ddatrys y ddau ddirgelwch?

Yn yr ail yn y gyfres, Rhoswen a’r Eira, mae lluwchfeydd mawr wedi caethiwo’r tylwyth teg yn eu tai, ond daw help annisgwyl iawn o rywle sy’n golygu bod y tylwyth yn llwyddo i fwynhau’r eira wedi’r cwbl.

‘Roeddwn i eisiau sgwennu’r math o straeon fyddwn i wedi mwynhau’u darllen yn ifanc, lle mae rhywun yn gallu dianc i fyd y dychymyg, a dod ar draws merched a bechgyn cyffredin, cydradd a’i gilydd, yn cael antur!’ meddai Nia,

Bydd rhaid aros tan y gwanwyn i fwynhau y drydedd a’r bedwaredd yn y gyfres, sef Briallen a Brech y Mêl a Brwynen a’r Aderyn Anferth.