Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr plant newydd yn codi ymwybyddiaeth am hylendid môr

Mae llyfr newydd Cymraeg ar gyfer plant a gyhoeddir yr wythnos hon yn dysgu moeswers bwysig am beidio â thaflu sbwriel i'r môr.

Mae Cadi dan y Dŵr gan yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas yn stori hyfryd, llawn hud a lledrith am fywyd o dan y môr ar gyfer darllenwyr ifanc, tua 5 - 8 mlwydd oed, gyda lluniau gan Janet Samuel.

Mae Cadi'n mynd i gael picnic gyda'i theulu ar lan y môr. Wrth iddi orwedd mewn pwll o ddŵr cynnes, braf, mae'n cael ei thynnu i lawr ac i lawr i waelod y môr mawr!

Dyna pryd mae'n cwrdd â ffrind newydd, Mabli'r fôr-forwyn ac yn dysgu beth yw effaith sbwriel yn y môr wrth helpu i gasglu bwyd ar gyfer parti pen-blwydd y brenin Neifion. Ond rhaid cadw'n ddigon pell oddi wrth ogof Morlais, y Morgi Mawr Gwyn!

'Mae'r straeon am greaduriaid y môr yn marw oherwydd sbwriel yn fy ngwylltio'n rhacs,' meddai Bethan, 'ac ar hyn o bryd mae 'na flanced afiach o fil o filltiroedd o blastig ar draws y Môr Tawel. A ni sydd ar fai!'

'Bob haf, mae pobl yn gadael eu sbwriel ar ein traethau, a fy ngobaith yw y bydd plant sy'n darllen Cadi dan y Dŵr yn gofalu bod eu teuluoedd yn mynd â phob tamed o sbwriel adre i'r bin ailgylchu o hyn ymlaen!' ychwanegodd hi, 'O - a dwi'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r hwyl a'r cyffro sydd yn y stori hefyd, wrth gwrs.'

Mae Bethan Gwanas yn awdur profiadol ac wedi ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau am ei gwaith ysgrifennu i blant hŷn, i'r arddegau ac i oedolion. Dyma ei hail lyfr ar gyfer plant bach yn dilyn cyhoeddi 'Coeden Cadi' yn 2015 a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Tir na n-Og 2016. Y Cadi 'go iawn', sef gor-nith Bethan, roddodd y syniad iddi ddechrau'r gyfres.

Mae Janet Samuel yn dod o Bontarddulais ac yn brofiadol iawn fel arlunydd llyfrau plant.

Mae'r cyfuniad o stori ddifyr a hyfryd Bethan Gwanas a lluniau lliwgar a hudolus Janet Samuel yn dod â'r llyfryn clawr caled hwn yn fyw i'r darllenwyr ifanc a'i wneud yn anrheg delfrydol ar gyfer yr haf – a'r flwyddyn ar ei hyd!