Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr newydd i ddathlu'r daith i annibyniaeth

Cyhoeddir cyfrol amserol sy’n crynhoi’r daith i annibyniaeth i Gymru. Mae Annibyniaeth / Independence gan Mari Emlyn yn gyfrol ddwyieithog sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y pedair blynedd diwethaf, rhwng 2016 a 2020. 

Wrth orfod gohirio tair gorymdaith AUOB eleni, ofnai llawer y byddai momentwm yr ymgyrch dros Annibyniaeth yn pylu. Ond mewn gwirionedd, mae’r llanast yn San Steffan wedi sodro annibyniaeth yn ôl ar yr agenda, gyda sawl un oedd yn Indycurious, yn datgan eu bod bellach yn Indyfurious. Denodd YesCymru 1,321 o aelodau newydd ym mis Mai 2020 yn unig a hynny ynghanol pandemig. Ym mis Mehefin, dangosodd arolwg y byddai 32% o’r boblogaeth yn pleidleisio dros annibyniaeth – 5% yn uwch nag oedd y ffigwr ym mis Ionawr.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan Gadeirydd YesCymru Siôn Jobbins, Llywelyn ap Gwilym, Tim Walker ac Eddie Butler. Eglura Eddie Buttler yn groyw pam ei fod yn gefnogol i annibyniaeth. Meddai: ‘Daeth fy rhieni i Gymru o Loegr yn syth wedi’r Ail Ryfel Byd ...Ffurfiwyd syniad fy rhieni o’u hunaniaeth gan yr Ail Ryfel Byd... Bu’r rhyfel yn andwyol, ond esgorodd ar ysbryd arbennig: ysbryd Prydain a safai’n unedig a herfeiddiol yn erbyn ideoleg frawychus. Dyw’r Deyrnas Unedig a wnaeth fy rhieni’n falch o alw eu hunain yn Brydeinwyr ddim yn bod bellach... pa ddaioni a ddaw i ran Cymru o San Steffan? Briwsion i bylu ein chwant am newid? Ond pa les gwirioneddol? Dim lles o gwbl. All dim da o gwbl ddod ohono. Dim yw dim.’

Yn dilyn galwad agored gan y Lolfa a’r awdur, Mari Emlyn, ar ddechrau’r flwyddyn, cynhwysir cyfraniadau gan bobl ar draws Cymru a thu hwnt sy’n egluro hanesion eu taith nhw dros gefnogi annibyniaeth ar ffurf lluniau a geiriau. Fel geiriau ysbrydoledig Duncan Fisher o Grughywel:

‘Dwi’n byw yng Nghymru ers 23 o flynyddoedd. Fe symudon ni yma pan gawson ni blant. Does gen i ddim gwreiddiau Cymreig. Roedd fy nhad yn dod o Seland Newydd, ac roedd fy mam yn Almaenes a anwyd ym Mheriw. Cefais i fy ngeni yn y Dwyrain Canol, tra oedd fy rhieni’n gweithio mewn gwersyll i ffoaduriaid ym Mhalesteina. Mae fy merched wedi tyfu lan yn Gymry ac wrth iddyn nhw dyfu, felly hefyd y sgwrs ar yr aelwyd am Gymru. Esgorodd hyn ar drafodaeth a dyma nhw’n cynnig ein bod yn mynd i’r orymdaith ym Merthyr. Dwi’n hoffi gorymdeithiau, felly derbyniais y gwahoddiad. Yr araith gyntaf oedd cerdd gan Patrick Jones ac ef ei hun yn ei darllen. Dyna ni wedyn. Doedd dim troi’n ôl! Dwi wedi bod yn gefnogwr brwd a gweithredol i YesCymru byth ers hynny.’

Bu’r gwaith o ddod â’r holl gyfraniadau at ei gilydd yn un pleserus i’r awdur, Mari Emlyn. Meddai:

Gellid bod wedi canolbwyntio ar gyfnodau eraill yn hanes y daith hir at annibyniaeth i Gymru. Ond byddai naws cyfrol o’r fath yn wahanol. Mae hon, er gwaetha’r cyfnod rhyfedd yr ydym yn byw ynddo, yn gyfrol lawen. Nid rhywbeth syber mo annibyniaeth yng Nghymru ein dyddiau ni.”