Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr lliwio newydd Cadi i ddiddanu plant!

Mae Cadi, y ferch fach annwyl a busneslyd, a seren Cyfers Cadi gan yr awdures Bethan Gwanas, yn ôl – a’r tro yma, mae modd i blant liwio ei hanturiaethau eu hunain! Mae Llyfr Lliwio Cadi yn gasgliad hyfryd o luniau tylwyth teg a deinosoriaid, creaduriaid y môr a'r Celtiaid, sef y bydoedd mae Cadi wedi ymweld â nhw ym mhedwar llyfr cyntaf y gyfres.

Mae'r arlunydd Janet Samuel, sydd yn dod â’r cymeriadau a bywyd y Cadi’n fyw i ddarllenwyr ifanc, wedi paratoi 23 o luniau i’w lliwio, ac ambell bos hefyd.

Mae’r llyfr maint A4, yn cynnwys brawddeg neu ddwy gan Bethan Gwanas o dan pob llun er mwyn rhoi’r cyd-destun. Mae’n addas ar gyfer pob math o ddefnyddiau lliw – creionau, pinnau ffelt a phensiliau lliw.

“Mae gwaith Janet Samuel yn arbennig, dwi wrth fy modd efo’r darluniadau, ac maen nhw’n berffaith ar gyfer llyfr o’r math yma. Mae’n wych meddwl y bydd plant yn medru defnyddio’u dychymyg eu hunain i liwio anturiaethau Cadi!” meddai Bethan Gwanas am Llyfr Lliwio Cadi.

Meddai Janet Samuel, “Mae geiriau Bethan yn tanio’r dychymyg a dwi wrth fy modd yn darlunio byd Cadi. Gobeithiaf bydd plant ledled Cymru yn mwynhau lliwio’r lluniau a datrys y posau! Pwy all anwybyddu’r gymysgedd arbennig o ddeinosoriaid, môr-forynion, corachod a Cheltiaid?!”

Wrth ateb y cwestiwn ble fydd Cadi’n mynd y tro nesaf, dywedodd Bethan:

Dwi ddim yn siŵr be fydd antur nesaf Cadi. Mae plant dros Gymru wedi cynnig y gofod, y jyngl, y syrcas, yr Antarctig – a byd gwrachod hyd yn oed! Os oes gan rywun syniadau eraill, rhowch wybod ar bob cyfri!”