Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr lliwio newydd Boc - y ddraig fach sy'n mynd o nerth i nerth!

Mae Boc yn ôl, y ddraig fach goch a ddaeth i boblogrwydd yng nghylchgrawn Mellten – a’r tro yma, mae modd i blant liwio eu hanturiaethau eu hunain! 

Disgrifiwyd y gyfres Ble Mae Boc? gan y dylunydd enwog Chris Riddell yn “wledd fendigedig i’r llygaid – mae pob tudalen yn gorlifo gyda hiwmor a dyfeisgarwch.”

Mae Llyfr Lliwio Ble Mae Boc (Y Lolfa) yn cynnwys 18 o luniau i’w lliwio, gyda phob llun tudalen ddwbl yn llawn cymeriadau, anifeiliaid a digwyddiadau. Yn y llyfr hwn, ceir dyluniadau newydd sbon ynghyd â lluniau o rai o’r bydoedd mae Boc wedi ymweld â nhw yn y ddau lyfr cyntaf, fel y sw angenfilod, ac awn i fuarth fferm, i gêm bêl-droed gyda’r Wal Goch, ac i Goedwig y Tylwyth Teg. Mae Boc hefyd yn cuddio mewn llefydd cwbl newydd, felly bydd mwy o waith chwilio am y ddraig fach goch!

Meddai’r awdur a’r dylunydd Huw Aaron:
“Mae llawer iawn o bobl wedi gofyn am lyfr lliwio Boc, felly mae’n grêt i allu cynnig hwn, yn y gobaith y bydd plant yn joio chwilio eto am Boc – a hefyd yn lliwio’r golygfeydd manwl yn eu steil a’u harddull unigryw eu hunain. Os oedd rhieni yn hapus bod y llyfre Boc eraill wedi dal sylw (di-sgrin) eu plant am hydoedd, ma hwn ar lefel arall! Welwch chi ddim eich plant am FISOEDD wrth iddyn nhw liwio’r llunie manwl yma! Hwrê!”

Ynghyd â Boc, mae Huw Aaron hefyd yn cyflwyno cymeriad newydd sef Moc Monocrom, y dewin cas sydd wedi dwyn y lliwiau i gyd. Mae’r llyfr maint A4 yn cynnwys 18 o luniau i’w lliwio, ac mae modd chwilio am Boc ac ambell beth arall ym mhob llun wrth liwio. Mae’r llyfr yn addas ar gyfer pob math o ddefnyddiau lliw – creionau, pinnau ffelt a phensiliau lliw.