Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched Cymreig

Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus (Y Lolfa) gan Medi Jones-Jackson. Mae’r llyfr yn dilyn llwyddiant llyfrau Saesneg fel Rebel Girls ond dyma lyfr gwreiddiol sy’n cofnodi hanes 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru ac mae’n ‘gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl.’

 

Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Tori James, Gwendoline a Margaret Davies, Betty Campbell, Frances Hoggan, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn, Kate Bosse Griffiths, Angharad Tomos, Jade Jones, Haley Gomez, Betsi Cadwaladr a Mair Russell-Jones. Mae’r casgliad yn amrywio o ran lleoliad daearyddol a meysydd gwahanol gan gynnwys meddygaeth, addysg, gwyddoniaeth, llên, chwaraeon a chelf. Mae pob un wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol. Mae yna weithgareddau llawn hwyl a lliwgar ar ddiwedd y gyfrol, sy’n ymwneud â phob un o’r merched medrus. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys posau, holiadur, chwilair a chelf.

 

Meddai Medi Jones-Jackson, “Dwi wastad wedi ymddiddori mewn hanes merched. Mae gen i gof o ymweld â stad Erddig a chael fawr o ddiddordeb yn hanes y bobl grand fyny grisiau. Ond ysu am wybod mwy am hanes y merched oedd yn byw lawr grisiau oeddwn i – y bobol gudd. A dyna, yn wir, ydi hanes y ferch yn ein cenedl ni – anweledig.”

 

Cafodd Medi ei hysbrydoli wrth ddarllen stori cyn gwely i’w merch Anest, sy’n 6 oed. “Roedd y ddwy ohonom wedi bod yn darllen am hanes Simone Biles, Marie Curie ac Alicia Alonso a sylweddoli nad oedd dim ar gael yn Gymraeg yn trin a thrafod anturiaethau a chlodfori merched o Gymru.”

 

Y sbardun olaf oedd wrth iddi dderbyn neges gan ffrind yn ei hannog i ysgrifennu’r llyfr ar ôl iddi gwyno ar Facebook am y diffyg a’r bwlch yn farchnad.

 

“Mae’r broses wedi bod yn orchwyl gwych ac rwyf wedi mwynhau gweld fy syniadau’n dod yn fyw ar bapur,” meddai Medi.

 

Mae’r llyfr wedi’i ddylunio’n ddifyr ac yn lliwgar gan Dyfan Williams ac mae lluniau cartŵn Telor Gwyn yn ychwanegu at naws chwareus a hwyliog y gyfrol.

 

Ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr mae enwau rhai o ferched Cymru wedi’u rhestri, ar ôl ymgyrch casglu enwau ar ddechrau’r gwanwyn eleni.

 

“Roedd yr ymateb yn hollol wych! Derbyniais dros 300 o enwau o fewn wythnos neu ddwy! Dwi am i ferched bach Cymru berchenogi’r llyfr yma – dyna oedd y syniad y tu ôl i gynnwys enwau yn y cloriau. Rwy am iddyn nhw sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl dim ond iddyn nhw freuddwydio, gweithio’n galed a sianelu eu hegni! Does dim byd allan o gyrraedd unrhyw ferch.”

 

Mae’r neges yn glir, ac yn cael ei nodi’n dda gan Tori James, a wireddodd ei breuddwyd drwy ddringo mynydd Eferest: “Os ydi merch o Sir Benfro yn gallu dringo mynydd uchaf y byd, mi fedri di hefyd wireddu dy freuddwydion. Y cwbl sydd eisiau ydi hunanhyder ac agwedd bositif.”

 

Gobaith Medi yw y bydd hanes y ferch yng Nghymru yn fwy gweledol, a bydd mwy o fechgyn a merched yn adnabod enwau’r merched yn y llyfr, a hanes y wlad.