Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr digidol Rwdlan y Cyfnod Clo yn cael ei gyhoeddi fel llyfr

Mae’r awdures Angharad Tomos yn cyhoeddi llyfr newydd yng Nghyfres Rwdlan yr wythnos hon, sef Pawennau Mursen. Cyflwynwyd y llyfr yn ddigidol yn wreiddiol, ar ddechrau’r cyfnod clo adeg y coronafeirws, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (2 Ebrill). Ond bellach mae’r Lolfa wedi penderfynu cyhoeddi llyfr print o Pawennau Mursen – y cyntaf yn y gyfres i gael ei gyhoeddi ers wyth mlynedd.

Meddai Angharad Tomos, “Fel pawb arall, wyddwn i ddim beth i’w wneud yn ystod y dyddiau cynnar, yn methu mynd i unman, a ddim yn gallu helpu. Dywedodd fy nheulu, ‘Gwna be wyt ti’n gallu ei wneud – sgwenna lyfr Rwdlan’. A dyna beth wnes. Fy nghŵr ddaeth o hyd i raglen Issuu, a bod modd cyhoeddi’r stori i’w rhannu’n ddigidol. Hogan pensel a phapur ydw i, ond dwi wedi dysgu sawl tric digidol yn ystod y cyfnod clo.”

Mae Pawennau Mursen yn stori amserol, sy’n gweld Rwdlan a’r Dewin Dwl yn cael eu haddysgu yn y cartref gan Ceridwen, ond mae’r ddau fach wedi diflasu ac yn penderfynu chwarae tric arni. Maen nhw’n clymu balŵn i drwyn Ceridwen ac yn peintio’r bwrdd yn felyn llachar. Ac mae ôl pawennau Mursen dros y stafell ac ar gôl Ceridwen.

Mae’r stori yn llawn hiwmor a bydd plant yn medru uniaethu â’r cymeriadau yn y cyfnod anodd yma.

Ar gychwyn y llyfr, mae Angharad Tomos yn nodi bod y llyfr yma ‘I blant Ysgol Maesincla, Caernarfon’. Meddai Angharad, “Dwi wedi ymweld â Ysgol Maesincla fwy nag unwaith yn siarad am Rwdlan, ac mae’n ysgol arbennig. Wedi dilyn ei hanes ar S4C – cyn ac yn ystod Covid – nes i feddwl y carwn gyflwyno’r llyfr iddynt hwy.”

Cyhoeddwyd y cyntaf yn y gyfres, sef Rala Rwdins, ddiwedd 1983. Ers hynny, mae 16 stori arall wedi cael eu cyhoeddi, gyda ’Sbector Sbectol yr un diweddaraf yn 2012.