Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr coginio newydd yn dathlu'r lleol, y tymhorol, y cynaliadwy a'r Cymreig

Yn ystod y cyfnod dan glo, daeth coginio i’r amlwg fel diddordeb cynyddol boblogaidd a ffordd o ymlacio yng nghanol amser gofidus. Fe welwyd pwyslais hefyd ar bwysigrwydd cefnogi siopau bwyd lleol, ac fe ddaeth y siopau hyn yn “hafan hanfodol”, yn ôl Nerys Howell, arbenigwraig ar y diwydiant bwyd ac awdures llyfr coginio dwyieithog newydd.

Mae’r gyfrol goginio Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season yn llawn ryseitiau traddodiadol a chyfoes wedi’u creu gan Nerys Howell, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Prynhawn Da ar S4C. Mae’r gyfrol yn dathlu bwyd Cymreig lleol ac yn annog pobl i fwyta’n dymhorol ac yn gynaliadwy.

Meddai Nerys:

“Mae bwyta deiet sy’n llawn cynnyrch lleol yn bwysig i ni yn gorfforol, i’n cymunedau ac i’r byd yn gyffredinol. Er mwyn gwireddu hyn mae angen newid y ffordd rydym ni’n meddwl am fwyd. Yn lle prynu’r hyn sy’n gyfleus mae angen edrych ar beth sydd ar ei orau ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Mae afalau ar gael o Awst i Ionawr, mefus a thomatos o Fai i Fedi, a digonedd o fresych, winwns a thatws drwy’r flwyddyn. Mae blas y cynnyrch yma llawer yn well pan maent yn cael eu mwynhau o fewn y tymor cynhaeaf priodol!”

Mae Nerys Howell yn berchen ar gwmni bwyd Howel Food Consultancy, ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd, diod a lletygarwch ac mae wedi teithio i bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru. Meddai Nerys:

“Wedi dychwelyd i Gymru dros ugain mlynedd yn ôl fe drawodd fi nad ydym fel cenedl yn clodfori cynnyrch ein gwlad, ac rwy wedi bod yn canolbwyntio ers hynny ar rannu ein cyfrinach. Rwy’n teimlo’n angerddol am safon a dewis ein cynnyrch yma yng Nghymru ac yn awyddus i ledaenu’r neges bod gennym y cynnyrch gorau!”

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau arbennig y ffotograffydd Phil Boorman, sy’n cyd-fynd yn wych gyda ryseitiau maethlon a blasus Nerys. Mae’r ryseitiau yn addas ar gyfer dechreuwyr a chogyddion profiadol ac yn cynnig syniadau fydd yn cynnig pleser, boddhad ac wrth gwrs bwyd da.  

Ysgrifenwyd y Rhagair gan y ffermwr a’r cyflwynydd teledu Gareth Wyn Jones. Meddai Gareth:

“Fel ffermwr, rwy’n hynod o falch fod Nerys yn canolbwyntio ar fwyd lleol, tymhorol a chynaliadwy yn ei chyfrol newydd. Mae’r prydau yn y llyfr gwych hwn yn ddathliad o’r dewis o fwydydd a’r safon sydd ar gael i ni yng Nghymru. Wrth gyrchu bwyd lleol rydym yn cael blas unigryw ar ardal arbennig, boed yn fenyn, yn gaws, yn gig neu’n win. Gobeithio y gwneith y llyfr yma ffrwythloni eich pleser mewn bwyd a choginio, ac annog ambell un i brynu yn lleol a thymhorol ac i dyfu bwyd mewn ffordd gynhaliol, amgylcheddol ac iach.”

Gobaith Nerys Howell yw y bydd y gyfrol hefyd yn cyfrannu at ddatrys sialensau ehangach wrth edrych i’r dyfodol:

“Gobeithio bod y llyfr yn gyfraniad tuag at y drafodaeth ehangach am ddyfodol y gadwyn fwyd yng Nghymru, pwysigrwydd deiet iach a gofynion dyfodol ein amgylchedd.”