Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr a siart i ddathlu Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 o flynyddoedd

Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr i baratoi ar gyfer ymgyrch gyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958. Wedi ei ysgrifennu gan y sylwebydd a’r cyflwynydd Dylan Ebenezer, mae’r gyfrol yn baratoad delfrydol i gefnogwyr, o bob oedran, sydd am wybod mwy am y gwrthwynebwyr, y wlad a’r sêr i’w dilyn.

Mae’r llyfr Cwpan y Byd 2022 yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, ac yn cynnwys y siart hanfodol i ddilyn a chofnodi canlyniad pob gêm. Ceir cyflwyniad i’r gyfrol gan Joe Allen, un o’r sêr profiadol sydd ‘Yma o Hyd’, ac yn y cyflwyniad mae’n talu teyrnged i’r cefnogwyr: “Mae’r Wal Goch wedi bod mor bwysig i ni ar hyd y daith… a’r berthynas rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn arbennig – gobeithio y bydd rheswm da i bawb ddathlu y gaeaf yma!”

Meddai Dylan Ebenezer: “Dyma’r tro cyntaf o fewn cof y gall cefnogwyr Cymru fwynhau Cwpan y Byd lle nad oes angen dewis tîm arall oherwydd hoff chwaraewr neu ar sail y cit mwyaf cŵl… mi fydd yn braf gallu canolbwyntio ar ein tîm a’n chwaraewyr ein hunain am newid!”

Os ydych yn mynd i Qatar neu beidio, mae’r llyfr yma’n ganllaw sy’n crynhoi’r ffeithiau holl bwysig ac yn un o resied o lyfrau sy’n cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgyrch Cymru yn Qatar ymhen y mis.

Mae Cwpan y Byd 2022 gan Dylan Ebenezer ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).