Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llwyddiant cyfres boblogaidd Na, Nel! am gyrraedd y llwyfan

Mae cyfres wreiddiol, boblogaidd Gymraeg i blant bellach yn cael ei haddasu ar gyfer y llwyfan.

Bydd y sioe Na, Nel! – Wwww! yn mynd ar daith o amgylch theatrau Cymru gyda chwmni theatr Arad Goch yn haf 2018.

‘Mae’n gyffrous iawn i feddwl y bydd Na, Nel! yn mynd ar y llwyfan, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gydweithio gyda chwmni Arad Goch – cwmni theatr sydd ag enw rhagorol am greu sioeau ar gyfer plant a phobl ifanc,’ meddai awdur y gyfres, Meleri Wyn James.

‘Mae Nel wedi bod yn fyw yn fy nychymyg i a’r artist John Lund, ac yn nychymyg plant ers sawl blwyddyn nawr, ac mae’n gyffrous tu hwnt i feddwl y bydd cyfle haf nesa i weld y cymeriadau yn dod yn fyw ar lwyfan,’ ychwanegodd.

Y gobaith yw bydd cyfle i dros saith mil o blant fwynhau’r sioe a bydd llyfr newydd i ysgogi dychymyg plant yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r daith.

Ychwanegodd Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Arad Goch, ‘Mae byd a bywyd Nel yn gyffrous iawn ac edrychwn ymlaen at roi ei stori ar lwyfannau Cymru y flwyddyn nesaf!

Mae cyfres Na, Nel! wedi profi’n boblogaidd tu hwnt gyda phlant Cymru. Wedi ei hanelu at ddarllenwyr ifanc dros 7 oed mae’r gyfres wreiddiol bellach wedi gwerthu miloedd o gopïau ers ei chyhoeddi gyntaf gan wasg Y Lolfa yn 2014.

‘Fel Mam i ddwy o ferched fy hun, ro’n i’n teimlo bod bwlch yn y farchnad ar gyfer straeon gwreiddiol, digri gyda blas Cymreig,’ eglurodd Meleri, ‘Fe ailargraffwyd y llyfr stori cyntaf o fewn wythnosau. Ers hynny, mae llyfrau Na, Nel! wedi mynd o nerth i nerth!’

Mae’r llyfr diweddaraf yn y gyfres, Na, Nel! – Wps! yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Yn Na, Nel! – Wps! mae Nel yn mynd ar antur fwyaf ei bywyd i ganolfan antur Glan-llyn. Ond a ellid ymddiried yn Nel ar y llyn ble mae anghenfil Tegi-wegi yn byw? Yn yr ail stori, mae yna ddisgybl newydd yn Ysgol Pen-y-Daith ac mae’r plant i gyd yn gyffrous ofnadwy. Ond pwy neu beth fydd y disgybl yma? Anifail… creadur o wlad estron… rhywun enwog, enwog iawn… ? A sut fydd Mair Mwyn yn teimlo o glywed bod gan Nel FfG newydd? Mae Nel hefyd wedi bod yn gwrando ar y newyddion, ac mae hi wedi cael syniad. Mae Nel yn mynd i ‘adael’ hefyd. Mae’n golygu y bydd yn rhaid iddi gael gwaith i ddechrau ennill ei harian ei hun. Ond beth fydd syniad mawr Miss Direidus?

Mae llyfrau Na, Nel! newydd gael eu dewis ar gyfer cystadleuaeth Darllen Dros Gymru am y trydydd tro ac mae Meleri wedi bod ar sawl taith awdur ac mewn ysgolion lu yn annog plant i ddarllen, ysgrifennu a bod yn greadigol. Mae gan Na, Nel! ei safle we ei hun hefyd, sef www.nanel.co.uk.

‘Dwi’n cael lot fawr o hwyl yn meddwl am anturiaethau newydd i Nel a’i ffrindiau. Dwi wrth fy modd yn sgrifennu’r straeon ac yn cwrdd â phlant mewn ysgolion, gwyliau ac Eisteddfodau i rannu’r straeon ar ôl i’r llyfrau gael eu cyhoeddi,’ meddai Meleri, ‘Mae sgwrs plant wastad yn rhoi gŵen ar fy ngwyneb, ac maen nhw’n dweud pethau doeth hefyd.’

Mae lluniau deniadol John Lund hefyd yn rhan bwysig o’r hyn sy’n dod â Nel yn fyw.

Na, Nel! Wps! yw’r chweched yng nghyfres Na, Nel! yn dilyn Na, Nel!; Na, Nel! – Ha, ha!; Na, Nel! – Aaaa!, Na, Nel! – Shhh!; Dyddiadur Nel! a’r llyfr hosan Dolig, Na, Nel! – Ho, ho!

‘Mae Nel yn haden!’ meddai un darllenydd ifanc, Cari Morgan-Williams, sydd yn 8 oed, ‘Ges i lawer o sbort yn darllen am ei direidi hi!’

Mae Meleri wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau i blant, pobol ifanc ac oedolion, gan gynnwys llyfrau Na, Nel! Mae’n gweithio fel golygydd creadigol rhan amser i wasg y Lolfa ers dros saith mlynedd.

Fe fydd cwmni theatr Arad Goch yn teithio sioe lwyfan Na, Nel! o gwmpas Cymru yn ystod haf 2018.