Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llwyd Owen yn 'Rhedeg i Parys' mewn antur gyffrous ar hyd Cymru

“Cyffrous, igam ogam a chariadus” – dyna sut mae’r awdur Llwyd Owen yn disgrifio’i nofel newydd Rhedeg i Parys. Mae’r antur gyffrous yn mynd â’r darllenydd ar daith ar hyd Cymru, ac yn ôl i fyd tywyll y dref ddychmygol Gerddi Hwyan, ac mae nifer o enwau cyfarwydd o’r nofelau blaenorol yn ymddangos yn y stori. Y darpar dditectif Sally Morris yw seren Rhedeg i Parys, ac mae’r stori hon yn troi o amgylch ei hymdrech i i ddod o hyd i fenyw ifanc sydd ar goll ers iddi redeg i ffwrdd gyda’i chariad.

 

“Ar ôl difrifoldeb fy nghyfrol ddiwethaf (y nofelig Iaith y Nefoedd), roeddwn i eisiau ysgrifennu stori antur – dim mwy, dim llai. Ar ben hynny, ro’n i eisiau dychwelyd at gyfres Gerddi Hwyan ac roedd cymeriad Sally Morris wedi bod yn troi yn fy mhen ers ysgrifennu Pyrth Uffern yn 2018. Mae Mynydd Parys ei hun, wrth gwrs, hefyd yn ysbrydoliaeth ac yn rhywle rwy’n ceisio mynd iddo bob tro rwy’n ymweld â theulu fy ngwraig ar Ynys Môn,” meddai Llwyd Owen.

 

Cyflwynwyd y prif gymeriad, Sally Morris, mewn rhan fechan yn nofel ddiwethaf cyfres Gerddi Hwyan, sef Pyrth Uffern. Mae nifer o gymeriadau eraill nofelau blaenorol Llwyd hefyd yn ymddangos mewn rolau ymylol, gan gynnwys DCI Aled Colwyn, DI Rolant Price a DS Richard King. Yn ogystal, mae gan feicwyr y Bandidos (o’r nofel Yr Ergyd Olaf) hefyd rôl fach ond tyngedfennol i’w chwarae yn yr hanes.

 

Mae’r stori yn dilyn Luned, sy’n ddeunaw oed ac yn byw ar Fferm Troed yr Aur ar lethrau Mynydd Parys ar Ynys Môn, a’i chariad Lee. Mae’r ddau ohonynt yn rhedeg i ffwrdd i Gaerdydd gyda'i gilydd ar ôl darganfod bod Luned yn feichiog. Ceir antur gyffrous a pheryglus i ddilyn sy’n arwain at isfyd tywyll y brifddinas, diwydiant twristiaeth Aberaeron ac, yn y pen draw, i grombil pydredig y mynydd copr.

 

"Mae’r rhyddid sy’n dod gyda Gerddi Hwyan yn golygu na fyddaf fyth yn blino ar ysgrifennu nofelau sydd wedi’u lleoli yno. Dyma’r bumed nofel yn y gyfres ac mae’r hanes yn digwydd rhyw ddwy flynedd ar ôl helynt Pyrth Uffern. Roeddwn i’n benderfynol o gyflwyno prif gymeriad benywaidd, sef Sally Morris. O’r olygfa gyntaf yn ei hystafell wely, credaf fy mod wedi creu cymeriad cofiadwy a chredadwy. Yn wir, mwynheais ysgrifennu’r cymeriad gymaint, fel fy mod yn bwriadu mynd ati’n syth i ysgrifennu nofel arall o safbwynt Sally,” meddai Llwyd.

 

Meddai’r awdur Ifan Morgan Jones am y nofel:

“Chwip o nofel sy’n mynd â’r darllenydd ar daith igam ogam ar draws Cymru.” Mae hefyd yn ei disgrifio fel “stori wefreiddiol arall gan awdur mwyaf darllenadwy Cymru.”