Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llwyd Owen yn dychwelyd i'r cysgodion yn ei nofel newydd

“Nofel sy’n brathu fel cyllell ar gnawd” – dyna ddisgrifiad yr awdur Alun Davies o O Glust i Glust (Y Lolfa), nofel dditectif afaelgar newydd yr awdur arobryn Llwyd Owen.

Gan ddychwelyd am y chweched tro i dref ddychmygol Gerddi Hwyan, mae O Glust i Glust yn dilyn hanes Ditectif Sargant Sally Morris wrth iddi arwain ei hachos cyntaf a mynd ar drywydd llofrudd cyfresol sy’n lladd pensiynwyr. Mae’r cyffro’n digwydd mewn dau gyfnod amser – y dyfodol agos (fel pob nofel arall yn y gyfres) a deg mlynedd ar hugain yn y gorffennol. 

Meddai Llwyd Owen:
“Dw i bach yn obsessed gyda chanol y nawdegau. Dwi ‘di dychwelyd yno mewn nifer o fy nofelau blaenorol (Pyrth Uffern, Y Ddyled). Roeddwn i yn fy arddegau ar y pryd ac mae’r cyfnod yn llawn atgofion lliwgar a chyffrous i mi. Rwy’n gobeithio’n arw bod hynny’n dod i’r amlwg yn y disgrifiadau o’r cyfnod a’r cyfeiriadau diwylliannol.”

Ochr yn ochr â stori Sally Morris, sy’n archwilio’r llofruddiaethau cyfredol gyda chymorth ei phartner, Daf Benson, clywn hanes torcalonnus teulu merch ifanc o’r enw Magi, sy’n trigo yng Ngerddi Hwyan ym 1994, a’r tywyllwch llethol sy’n llifo trwy’r clwb pêl-droed lleol.

“Ar ôl ysgrifennu yn bennaf am gymeriadau gwrywaidd, yn 2018 cefais fy herio gan yr actores Hanna Jarman i roi lle mwy blaenllaw i fenywod yn fy ngwaith. Mae hynny wedi arwain at gymeriadau Mair yn Iaith y Nefoedd, Luned a Sally Morris yn Rhedeg i Parys, a Magi a Sally yn y nofel hon. Fel tad i ddwy ferch, a ffeminydd i’r craidd, dyma rywbeth dw i’n benderfynol o barhau i’w wneud gan edrych tua’r dyfodol.”

Mae’r awdur profiadol yn cyflwyno’r cyfan yn ei arddull unigryw, gan ddadlennu’r gwir trwy blethu’r straeon cyfochrog, a chyrraedd uchafbwynt gwaedlyd a fydd yn sicr o foddhau darllenwyr hen a newydd i waith Llwyd Owen.

Mae’r awdur Alun Davies wedi disgrifio O Glust i Glust fel:
“Taith afaelgar drwy’r cysgodion at gyfrinachau tywyllaf Gerddi Hwyan. Gwaed, dial a throsedd – does neb yn fwy noir na Llwyd Owen.”