Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lloyd Jones yn ail ymweld â byd ei nofel enwog Y Dŵr

Y Dŵr gan Lloyd Jones oedd un o’r nofelau dystopaidd gorau i’w cyhoeddi yn y Gymraeg. Fe’i disgrifiwyd fel clasur, oedd yn “ysgytwol a gafaelgar” pan y’i cyhoeddwyd yn 2009. Yr wythnos hon cyhoeddir rhaghanes (prequel) i’r nofel gan Y Lolfa, sef Fflur.

 

Meddai Lloyd Jones am ei nofel newydd, “Mae hwn yn lyfr hollol wahanol, yn adlewyrchu amseroedd a byd cyn yr helynt a welwyd yn Y Dŵr. Buaswn yn ei ddisgrifio fel nofel rhamant gwledig hen-ffasiwn.”

 

“Daeth y syniad gwreiddiol o sylwi ar fedd geneth fach o’r enw Gwen Rowland a fu farw’n ddiwrnod oed yn 1767. Teimlwn yn drist nad oedd hi wedi byw cymaint â 24 awr. Euthum ati i ddyfalu rhywfaint o’i hanes, fel cofiant iddi.”

 

Mae Fflur wedi’i osod ar fferm Dolfrwynog yng Nghwm y Blodau, yn ystod ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd ac mewn cyfnod digon heddychlon a digyfnewid i Eirlys y forwyn. Ond buan y daw digwyddiad ffrwydrol, tyngedfennol i newid Eirlys a theulu Dolfrwynog. Llwydda ymweliad annisgwyl a rhyfedd y ferch yn y wisg werdd i newid eu bywydau am byth.

 

Meddai Lloyd Jones:

“Ysgrifennais Fflur fel adwaith i moderniaeth. Rydw i wedi syrffedu ar y stwff trefol, Americanaidd ar ein sgrîns ac yn ein llyfrau… trais, lladd a bwyd ydi popeth nawr a ‘dwi i wedi blino efo fo!”

 

Dyma drydedd cyfrol Lloyd Jones yn y Gymraeg. Mae’n dilyn Y Daith ac Y Dŵr; nofel ysgytwol sy’n aml yn cael ei henwi fel un o nofelau diweddar gorau’r Gymraeg. Fel y disgwylid gan yr awdur hwn, mae Fflur yn gyforiog o ddisgrifiadau telynegol gwreiddiol, tyner a thrist. 

 

Meddai Jon Gower am y nofel:

‘Dyma nofelig dyner am gariad yn cyrraedd yn ddirybudd ac yn gadael heb ddweud gair. Ceir portread byw a chynnes o deulu Dolfrwynog ac o fywyd sy’n llawn sawr a manyldeb bywyd amaethyddol. Portread ydyw hefyd o gymuned glos, gapelgar ben mynydd, ac o dreigl y tymhorau a threigl amser. Dyma Lloyd Jones yn profi, unwaith yn rhagor, ei fod yn feistr ar ei waith ac storïwr wrth reddf sy’n harneisio geiriau er mwyn rhwydo’r darllenydd.