Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llenwi'r bwlch yn y llyfrau sydd ar gael i rieni yn y Gymraeg

Mae un Mam wedi mynd ati i lenwi’r bwlch yn y llyfrau Cymraeg sydd ar gael sydd yn darlunio realiti sefyllfa o fagu plentyn yng Nghymru gyda safbwynt Cymreig a Chymraeg drwy gyhoeddi llyfr newydd fydd yn ganllaw doniol a chynhwysfawr i rieni newydd yn y Gymraeg.

Bydd Heulwen Davies o Fachynlleth yn cyhoeddi Mam – Croeso i’r Clwb yr wythnos hon sef llyfr llawn ffeithiau i famau newydd yn cofnodi profiadau mamau, tadau, y teulu, doctor a bydwragedd gan arwain y fam trwy’r beichiogrwydd, hyd at ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn. Bydd y gyfrol yn trafod yn ysgafn ac yn agored am y newidiadau a’r heriau sydd yn wynebu rhieni newydd gan gynnig cyngor ar hyd y ffordd. Bydd yn cael ei lansio i gyd-fynd â Sul y Mamau ar 11 Mawrth 2018.

‘Fel mam am y tro cyntaf, daeth hi’n amlwg bod digon o lyfrau a gwefannau Saesneg ar gael i famau, er mwyn cael cyngor a rhannu profiadau, ond doedd dim llyfr Cymraeg na phlatfform digidol Cymraeg,’ eglurodd Heulwen, ‘Er bod yr adnoddau Saesneg yn help, o’n i’n methu uniaethu a sefyllfa’r mamau yma, gan bod y mwyafrif yn byw mewn dinas, yn gyfoethog ac yn posh! Roedd eu bywyd nhw yn dra gwahanol i fy mywyd i – fel mam feichiog a mam newydd yng nghefn gwlad Cymru. Nid yn well, ond yn wahanol.’

‘Ro’n i’n awyddus i newid y sefyllfa, er mwyn helpu mamau a rhieni’r dyfodol, wrth sicrhau bod profiadau mamau a thadau yn cael eu rhannu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog, er mwyn portreadu bywyd rhiant yng Nghymru.’ meddai Heulwen, ‘Dechreuais flogio am fy mhrofiad fel mam newydd a chael ymateb da iawn’.

A hithau yn awyddus i annog mwy o rieni i drafod ac i gefnogi ei gilydd, fe benderfynodd Heulwen ysgrifennu llyfr ei hunan gan sefydlu’r blog dwyieithiog poblogaidd, Mam Cymru, yn y cyfamser.

Daeth yr ysgogiad i ysgrifennu’r llyfr o’r diwedd gan yr awdures Caryl Lewis pan fynychodd Heulwen gwrs ysgrifennu un dydd yn Nhŷ Newydd yr oedd Caryl yn ei harwain.

‘Ar ddiwedd y cwrs, geiriau Caryl oedd, “Os na ei di a’r syniad a’r llyfr yma i gyhoeddwr dydd Llun, fydda i’n mynd ag e i ti!”’ meddai Heulwen.

Lluniwyd lluniau’r gyfrol gan y cartwnydd Huw Aaron i ‘ychwanegu at hiwmor y testun’. Roedd Huw yn falch o’r cyfle ac wedi mynd drwy brofiad tebyg ei hun yn ystod y cyfnod o gynhyrchu’r lluniau wrth ddod yn Dad am y eildro.

Er fod rhannau helaeth o’r gyfrol yn seiliedig ar brofiad Heulwen, ceir mewnbwn a dyfyniadau gan dros hanner cant o famau a tadau, bydwragedd ac arbenigwyr o bob cwr o Gymru yn sgil holiadur ar-lein a grewyd gan Heulwen er mwyn casglu profiadau rhieni eraill yng Nghymru.

‘Dwi ddim yn arbenigwr, dwi’n fam i un, ond dwi’n hollol onest ac yn agored iawn i rannu er mwyn helpu ac i wneud i ddarpar rieni a rhieni wenu a chwerthin wrth iddyn nhw sylweddoli fod POPETH mae nhw’n mynd trwyddo neu ar fin mynd trwyddo yn normal!’ meddai Heulwen.

‘Mae’n amhosib esbonio sut deimlad a phrofi ad ydy bod yn fam, a chael bod yn aelod o’r clwb breintiedig yma. Mae’n rhaid i chi brofi’r peth, mynd ar y siwrne gyffrous, ddagreuol, heriol a hapus yma er mwyn gwybod pa mor anhygoel ydy hyn go iawn’ meddai.

‘Os ewch chi ag un peth o’r llyfr yma gyda chi ar eich taith eich hunan, yr hyn hoffwn i chi fynd gyda chi a’i gofio yw pwysigrwydd Prosecco – na, joc, pwysigrwydd amser!’ ychwanegodd Heulwen, ‘Gwnewch y gorau o’ch amser, gwnewch y mwya o’r amser gyda’ch gilydd a gwnewch beth sy’n teimlo’n iawn i chi. Mam sy’n gwybod orau!’

Mae Heulwen Davies yn byw ym Mro Ddyfi gyda Gareth ac Elsi Dyfi. Bu’n teithio Cymru a’r byd fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu a radio, cyn dychwelyd i Fachynlleth a dechrau gyrfa fel rheolwr ac ymgynghorydd marchnata a digwyddiadau.