Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llenwi'r bwlch mewn straeon ysbryd yn y Gymraeg

Mae un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru, Mihangel Morgan, wedi gosod her iddo’i hun i ‘lenwi’r bwlch’ yn yr angen am stori ysbryd Nadoligaidd Gymraeg.

‘A hithau’n dymor y Nadolig mae’n rhaid i ni gael stori ysbryd!’ meddai Mihangel Morgan, ‘Ond prin yw’r storïau ysbryd sy’n gysylltiedig â’r Nadolig yn Gymraeg.’
 
Fe aeth yr awdur ati i greu stori newydd yn barod ar gyfer yr ŵyl, a’r canlyniad yw Hen Bethau Anghofiedig, y nofel a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa.

Yn y nofel ysgeler mae dau hen ffrind yn cwrdd am y tro cyntaf ers blynyddoedd ar daith drên ar un noson hir o aeaf.

Mae gan Merfyn stori iasoer i’w rhannu, un sy’n dechrau gydag etifeddu clamp o dŷ ar ôl ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a’i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu’r hen le ac ymddeol o fywyd gwyllt dinas Llundain. Ond wrth i Merfyn godi’r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fêr eu hesgyrn.

‘Wrth gwrs, does neb yn credu mewn ysbrydion go iawn y dyddiau ’ma, nag oes?’ meddai Mihangel, ‘Ond arhoswch chi mewn hen dŷ mawr tywyll ganol gaeaf ar eich pen eich hun a daliwch i ddweud nad ydych chi’n credu mewn ysbrydion. Dyna’r her i chi.’

Darluniwyd y llun trawiadol sydd ar glawr y nofel gan Kim James-Williams, yr artist talentog o Aberystwyth.

Cyhoeddodd Mihangel Morgan naw casgliad o straeon byrion ac amryw o nofelau. Cafodd ei gyfrol ddiwethaf 60, a gyhoeddwyd yn 2017, ganmoliaeth uchel, gyda Dr Sioned Puw Rowlands yn dweud amdani, ‘Rwyf yn darllen Mihangel Morgan i gofio beth yw byw.’ Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993 am ei nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei nofel Pantglas ei henwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn 2012. Mae bellach yn byw yn Aberdâr lle cafodd ei fagu.

Caiff y gyfrol ei lansio yng Amgueddfa Cwm Cynon ym mhentref genedigol Mihangel Morgan am 7 o’r gloch nos Wener 24 Tachwedd yng nghwmni Mihangel Morgan, Dr Rhiannon Marks a Jeremy Turner.