Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

John Jenkins yn honni y gallai'r Tywysog fod wedi cael ei ladd yn ystod yr arwisgo

Union hanner can mlynedd ers yr Arwisgo mae arweinydd y grŵp chwyldroadol Mudiad Amddifyn Cymru wedi awgrymu y gallai’r Tywysog Charles fod wedi cael ei ladd. Yn y cofiant newydd John Jenkins: The Reluctant Revolutionary? dywed John Jenkins,

“Gallem fod wedi ei ladd... Yn un peth roeddwn i yn gwasanaethu Byddin Prydain ar y diwrnod. Gallwn fod wedi cario reiffl a’i saethu petawn i’n dymuno. Yn fwy na hynny, petawn i wedi gofyn i gwpwl o bobl gyflawni gweithred fyddai wedi golygu y byddent yn colli eu bywydau, dwi’n gwybod am o leiaf ddau fyddai wedi bod yn barod i gamu ymlaen.”

Yn ystod y cyfnod cythryblus yn arwain at yr arwisgo gwelwyd sawl ffrwydriaid, gydag un dyfais yn lladd dau fomiwr yn Abergele. Yn y gyfrol, a ysgrifennwyd gan yr hanesydd Dr Wyn Thomas, datgelir sut i’r ymgyrch fomio ddenu cynigion o gefnogaeth o Lybia a Dwyrain yr Almaen a sut i strwythur celloedd MAC ddylanwadu ar yr IRA maes o law. Dywedodd Dr Wyn Thomas,

“Mae’r hyn a gyflawnodd John Bernad Jenkins wrth arwain ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru yng Nghymru yn arwyddocaol tu hwnt yn hanes Cymru a Phrydain.”

Mae’r gyfrol yn ffrwyth llafur pymtheg mlynedd o gyfweliadau gyda John Jenkins, ei deulu a’i gydnabod, aelodau eraill o MAC a chyn-aelodau o’r heddlu. Mae swmp y wybodaeth newydd a ddatgelir yn y gyfrol yn rhyfeddol gan godi’r llen ar y cefndir gwleidyddol a chymdeithasol, cymeriad cymhleth John Jenkins a gweithredoedd mewnol MAC. Yn ogystal ag adrodd hanes carlamus y cyfnod mae’r awdur wedi llwyddo i fynd o dan groen John Jenkins, gan geisio esbonio pam aeth ati yn y fath fodd, i herio’r wladwriaeth Brydeinig dros ryddid gwleidyddol i Gymru.

Bydd Y Lolfa hefyd yn ail-ryddhau Prison Letters (£9.99, clawr meddwl), sef casgliad o lythyron a ysgrifennwyd gan John Jenkins i ffrindiau ac ymgyrchwyr yn ystod ei gyfnod yng ngharchar.