Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hyfryd iawn! Dathlu 50 oed Y Lolfa

Bydd gwasg Y Lolfa yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant trwy gyhoeddi fersiwn facsimili o'i llyfr cyntaf erioed, Hyfryd Iawn. Caiff y llyfr ei llofnodi gan Elwyn Ioan, a wnaeth y cartwnau, a Robat Gruffudd, oedd yn gyfrifol am gofnodi geiriau awdur y llyfr, Eirwyn Pontshân.

Meddai Robat, 'Cafodd y llyfr ei ganmol ar y pryd am wreiddioldeb ei gynnwys a'i ddiwyg ac rwy'n credu ei fod yn dal i gynrychioli safbwynt hwyliog, Cymreig, annibynnol y wasg.'

Caiff y llyfr ei lansio mewn parti mawr yng Ngwesty'r Marine, Aberystwyth nos Sadwrn, Mai 20fed. Bydd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad yn agor y noson, cyn rhoi'r llwyfan i fandiau Geraint Løvgreen ac Ail Symudiad a'r dynwaredwr Emyr 'Himyrs' Roberts.

Yn ogystal â chyhoeddi'r llyfr, a fydd ar werth am £10, bydd murlun newydd yn cael ei ddadorchuddio yn y parti gan yr artist Ruth Jên i ddathlu'r penblwydd aur. Ruth Jên arluniodd y murlun enwog ar wal y wasg ar y briffordd yn Nhalybont sydd bellach un o ddelweddau fwyaf adnabyddus Cymru. Caiff y darlun newydd – fydd yn talu teyrnged i rhai o'r llyfrau, awduron a delweddau fwyaf eiconig dros yr hanner canmlynedd ddiwethaf, ei ddangos ar y llwyfan yn y parti ac ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn.

Sefydlwyd gwasg Y Lolfa yn Nhalybont yn 1967 gan Robat Gruffudd o Abertawe, mewn cyfnod o brotest a chyffro ieithyddol. Roedd yn rhan o weledigaeth y wasg i greu math newydd o gyhoeddi bywiog a lliwgar yn Gymraeg gan fanteisio ar y rhyddid newydd a ginigiai'r dull photo-litho argraffu.

Datblygodd y cwmni'n raddol gan symud i Hen Swyddfa'r Heddlu yn 1978, ac erbyn troad y ganrif roedd y wasg yn cyhoeddi ystod eang iawn o lyfrau gan gynnwys llyfrau dysgu Cymraeg, cyfresi arloesol Y Llewod a Rwdlan i blant, llyfrau i ymwelwyr i Gymru, bywgraffiadau yn Gymraeg a Saesneg, a nofelau cyfoes. Yn 2007 enillodd y wasg wobr Llyfr y Flwyddyn am y trydydd tro yn olynol.

Meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y wasg, 'Y prif reswm dros ein llwyddiant dros yr hanner canrif yw ansawdd ein staff - eu profiad a'u sgiliau a'u brwdfrydedd ar yr ochr gyhoeddi ac argraffu – ac mae'r ddwy ochr o waith y wasg wastad wedi asio'n dda iawn'.

Daw hanner trosiant Y Lolfa o'i gwasanaeth argraffu.

Meddai Paul Williams, y rheolwr cynhyrchu. 'Mae gynnon ni weisg modern, soffistigedig ond ry'n ni'n dal yn ddigon bach i allu cynnig gwasanaeth manwl a phersonol i gwsmeriaid.'

Mae'r Lolfa'n cyflogi 20 o staff amser llawn yn Nhalybont ac yn troi dros £1m y flwyddyn.

'Yr un hefyd yw nod y wasg heddiw ag o'r blaen. Mae hwn hefyd yn gyfnod o gyffro a newid mae'r angen yn fwy nag erioed i annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig' ychwanegodd Robat.

'Rwy'n gobeithio'n fawr ein bod ni fel gwasg yn parhau i gyfrannu, mewn ffordd fach, at y gwaith pwysig ond diderfyn yna' meddai.

Bydd Bedwen Lyfrau yn cael ei gynnal rhwng 10 a 4 o'r gloch ddydd Sadwrn yr 20fed o Fai yng Nghanolfan y Celfydyddau yn Aberystwyth. Bydd Parti 50 Y Lolfa yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Marine, Aberystwyth am 8 o'r gloch.